Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy wedi cysylltu gyda Adran Addysg, Cyngor Gwynedd i ofyn am gael newid ystod oedran yr ysgol i
3-11 oed, gan dderbyn plant i Ddosbarth Meithrin yn mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed. Mi fydda hyn yn dilyn yr un drefn a sydd yn bodoli yn barod ym mwyafrif o ysgolion cynradd Gwynedd.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy yn cynnig addysg i blant rhwng 4-11 oed gan dderbyn plant i’r Dosbarth Derbyn yn mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed.
Er mwyn newid yr ystod oedran, yn unol a gofynion Llywodraeth Cymru yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae angen dilyn trefn statudol. Gellir gweld y camau ynghlwm a’r drefn yma isod:
Medi 2018 - Cychwyn yr ymgynghoriad gyda rhieni, plant, staff a llywodraethwyr yr ysgol, yn ogystal a partïon eraill fydd â diddordeb. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i unrhyw un gynnig sylwadau ar y cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy o 4-11 i 3-11 oed o Medi 2019 ymlaen.
Tachwedd 2018 – Yn dilyn yr ymgynghoriad mi fyddwn yn cyflwyno adroddiad i Cabinet Cyngor Gwynedd gan ymateb i unrhyw sylwadau dderbynnir. Yna mi fydd y Cabinet yn penderfynu caniatáu cyhoeddi Rhybudd Statudol ar y cynnig, a’i peidio.
Ionawr 2019 – Yn ddibynnol ar benderfyniad y Cabinet, bydd Rhybudd Statudol yn cael ei gyhoeddi. Bydd posib gwrthwynebu y cynnig ar y pwynt yma.
Mawrth 2019 - Yn dilyn y cyfnod Rhybudd Statudol, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd, gan gynnwys unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir. Mi fydd y Cabinet yna’n gwneud penderfyniad terfynol i ganiatáu’r cynnig a’i peidio.
Medi 2019 – Bydd Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy yn newid i dderbyn plant 3-11 oed, neu parhau gyda’r drefn bresennol.
Mwy o Wybodaeth: