Grant datblygu disgyblion

Mae cymorth ar gael i helpu teuluoedd sydd ar incwm isel i brynu: 

  • Gwisg ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau
  • Dillad ac esgidiau ymarfer corff
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau fel scowts; geidiaid; cadlanciaid; karate,  chwaraeon; celfyddydau perfformio, dawns ac ati
  • Offer e.e. bagiau ysgol
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg
  • Offer ar gyfer teithiau tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. dillad dal dŵr.

Nid yw’n restr yn un gyflawn.

Mae’r arian sydd ar gael wedi cynyddu i £225 ar gyfer pob disgybl heblaw ar gyfer (£300 i ddisgyblion Blwyddyn 7) am eleni yn unig. 

 

Gwneud cais

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ni fydd rhaid i chi gwblhau ffurflen gais am grantiau, byddwn yn asesu eich hawl yn awtomatig.

Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ac o’r farn fod gan eich teulu hawl i gael grant, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais isod.

Ffurflen gais - grant datblygu disgyblion

Dychwelwch y ffurflen gais, ynghŷd â'r ffurflen taliad BACS i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen. 

Os ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol yna fe allwch fod gyda hawl i dderbyn Grant: 

  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
  • Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol ddim mwy na £16,190)
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400 

Nid yw teuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith yn teilyngu hyd yn oed os yw eu hincwm trethadwy blynyddol o dan £16,190. 

Mae'r arian ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn Cinio Ysgol am Ddim (ond nid y rhai sy’n cael eu Gwarchod Dros dro) neu sy’n derbyn gofal ac yn mynychu 

  • mynd i ddosbarth Derbyn, neu i flwyddyn 1,2,3,4,5 neu 6 mewn ysgol gynradd sy’n cael ei chynnal ym mis Medi 2022;
  • mynd i flwyddyn 7,8,9,10 neu 11 mewn ysgol uwchradd sy’n cael ei chynnal ym mis Medi 2022;
  • neu mynd i ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion ac sy'n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2022.
  • Plant sy'n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael eu hystyried yn blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol lle mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol sy'n gyfrifol am roi'r grant.

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ni fydd angen i chi gwblhau ffurflen ar adegau penodol, byddwn yn adolygu eich hawl yn awtomatig. 

Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd bydd angen gwneud cais bob blwyddyn. Fe fydd y swyddfa Budd-daliadau yn anfon ffurflen i chi pan fydd angen i chi wneud cais newydd. Dim ond un ffurflen sydd angen ei llenwi ar gyfer eich plant i gyd, hyd yn oed os ydynt mewn ysgolion gwahanol.

Mae'n rhaid i’ch plentyn fynychu ysgol yng Ngwynedd i hawlio grant gan Gyngor Gwynedd. Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol mewn sir arall bydd yn rhaid i chi wneud cais am grant gan yr awdurdod hwnnw.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth swyddfa Budd-daliadau'r Cyngor am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau cyllidol / teuluol. Os nad ydych yn gwneud hyn bydd Cyngor Gwynedd yn gallu gofyn am yr arian yn ôl. 

Gallwch ddweud wrthym am newid amgylchiadau ar-lein.

 


Cysylltu â’r swyddfa budd-daliadau

Ffôn: 01286 682689

E-bost: budd-daliadau@gwynedd.llyw.cymru