Cymorth arall

 

Lwfans cynhaliaeth addysg

Er mwyn galluogi disgyblion i aros yn yr ysgol i gael addysg lawn-amser ar ôl oedran gadael ysgol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu lwfans cynnal. Mae’r lwfans yn cael ei dalu unwaith y tymor, ar ôl hanner tymor, os ydym yn derbyn adroddiad ysgol foddhaol ar bresenoldeb a chynnydd.

Am unrhyw wybodaeth ychwanegol ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

 

Addysg feithrin

Mae'n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu 10 awr yr wythnos o addysg feithrin rhan-amser i blant 3 oed yng Ngwynedd. 

 

Offerynnau cerdd

Os bydd eich plentyn yn derbyn gwersi offerynnol yn yr ysgol, bydd y tiwtoriaid yn darparu offeryn ar eu cyfer.

Mae'r gwersi'n cael eu cynnal gan Ganolfan gerdd William Mathias - sefydliad elusennol wedi ei sefydlu er mwyn hyrwyddo talentau cerddorol plant a phobl ifanc.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Canolfan Gerdd William Mathias