Anghenion Dysgu Ychwanegol
Beth sy’n newid?
Y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc o dan 25 oed sydd angen help ychwanegol er mwyn iddynt wneud cynnydd yn unol â'u gallu yn cael ei adolygu.
Cafodd ddeddfwriaeth i greu dull newydd ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 12 Rhagfyr 2016 - sef Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Mae'r datganiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu fideo a thaflenni gwybodaeth sy’n helpu egluro’r newidiadau.
Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn bellach yn cyd-weithio i weithredu un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh) gyffredin ar gyfer y ddau awdurdod.
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Ynys Môn wedi cymeradwyo hyn ym mis Medi 2016. Bydd un Tîm Integredig o arbenigwyr yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu gynhwysiad ar draws y ddau awdurdod. Rydym yn y broses o ailstrwythuro’r Gwasanaeth ar hyn o bryd gyda’r Tîm Integredig yn weithredol o fis Medi 2017 a dros amser byddwn yn cysoni’r holl ddarpariaeth. Mae’r cydweithio yma wedi arwain at greu Dogfen Strategaeth fanwl fydd yn rhoi gwybodaeth drwyadl a chanllawiau clir o ran y ddarpariaeth bosib oddi fewn i bob gwasanaeth arbenigol.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Un rhan amlwg o’r newidiadau yw y bydd Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu disodli gan Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) newydd – ond a fydd efo’r un grym cyfreithiol iddynt.
Er mwyn creu CDU rydym yn defnyddio proses o’r enw Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn sicrhau bod barn disgyblion a rhieni yn cael eu hystyried drwy gydol y broses gynllunio. Bydd y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth.
Yn ystod 2016-2017 y mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi dechrau cynnal adolygiadau yn y dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.
Mae'r fideo isod yn esbonio beth yw Adolygiad Sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn:
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: AdolygiadADYaCh@gwynedd.llyw.cymru