Addysg anghenion arbennig
Ein manylion Cyswllt
Beth yw anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol?
Mae hyn yn golygu bod gan blentyn anawsterau dysgu arwyddocaol o’i gymharu â disgyblion eraill o’r un oedran.
Mae plentyn gydag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn gallu cael trafferthion mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- gwybyddol a dysgu
- cyfathrebu a rhyngweithio
- ymddygiadol, cymdeithasol a datblygiad emosiynol
- synhwyraidd a / neu gorfforol
- anghenion meddygol
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n meddwl bod gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig?
Os ydych yn meddwl bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig dylech gysylltu gydag ysgol eich plentyn a naill ai siarad gyda’r athro / athrawes dosbarth, y Pennaeth neu’r cydlynydd anghenion addysgol arbennig.
Gallwch holi sut y mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig a bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael ym mholisi AAA yr ysgol.
Os oes gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig, a ydi o / hi angen datganiad?
Dim ond canran isel o blant gydag anghenion addysgol arbennig sydd angen asesiad statudol a datganiad. Mae’r cod ymarfer AAA yn adnabod y gwahanol ffyrdd o gyfarfod anghenion arbennig y disgyblion. Bydd yr ysgol yn dweud wrthych os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig a sut mae'r ysgol yn diwallu'r anghenion hyn.
Mae’r cod ymarfer AAA yn adnabod y camau o ddarganfod a diwallu anghenion addysgol arbennig drwy:
- fonitro
- gweithrediad yn yr ysgol
- gweithrediad ychwanegol yn yr ysgol
- cynllun 3*
- asesiad statudol
- datganiad anghenion addysgol arbennig
Sut fydda i’n gwybod os yw fy mhlentyn ar un o’r camau anghenion arbennig?
Ysgolion sydd yn gyfrifol am y camau monitro, gweithrediad yn yr ysgol a gweithrediad ychwanegol yn yr ysgol. Mae cyfrifoldeb ar yr ysgol i hysbysebu a chynnwys rhieni mewn unrhyw gynlluniau ar gyfer anghenion addysgol arbennig eu plentyn. Os yw eich plentyn yn cael ei osod ar weithrediad neu weithrediad ychwanegol yn yr ysgol, bydd ganddynt Gynllun Addysg Unigol a fydd yn amlinellu targedau i’w cyflawni a sut y byddent yn cael eu cyflawni. Mae rhieni yn gallu cyfrannu at y cynlluniau unigol hyn a byddant yn derbyn copi newydd os oes unrhyw newidiadau. Dylai cynnydd eich plentyn gael ei fonitro a dylai’r cynllun gael ei adolygu yn gyson. Bydd eich safbwynt chi yn holl bwysig ac yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiadau.
Os yw’r ysgol yn teimlo nad yw'n gallu diwallu anghenion eich plentyn gyda'i adnoddau na’r adnoddau sydd ar gael gan y gwasanaethau cynnal, byddant yn trafod gwneud cais am asesiad statudol gan yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) gyda chi.
Os oes gan fy mhlentyn anghenion addysgol arbennig a fydd yn rhaid iddo / iddi fynd i ysgol arbennig?
Dim ond canran isel iawn o blant gydag anghenion addysgol arbennig sydd yn gorfod mynychu ysgol arbennig. Yn y mwyafrif o achosion gall plant aros mewn ysgol prif ffrwd a derbyn y cymorth ychwanegol angenrheidiol er mwyn diwallu eu hanghenion arbennig.
Beth yw adolygiad blynyddol?
Bydd asesiad eich plentyn yn cael ei adolygu yn flynyddol. Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn dweud wrth ysgol pryd i gynnal adolygiad eich plentyn. Bydd yr ysgol yn penodi dyddiad a threfnu'r asesiad. Pwrpas yr adolygiad yw edrych ar unrhyw gynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf mewn perthynas â’r amcanion ar yr asesiad.
Beth yw adolygiad trawsnewid a chynllun trawsnewid?
Adolygiad trawsnewid yw enw’r adolygiad blynyddol cyntaf ym mlwyddyn 9. Mae'r adolygiad yn adolygu cynnydd dros y flwyddyn flaenorol ac yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’r cynllun trawsnewid wedi ei ddatblygu er mwyn helpu eich plentyn i gymryd y cam o’r ysgol i fywyd oedolyn.
A oes unrhyw brosiectau er mwyn rhoi cefnogaeth i deuluoedd?
Mae SNAP Cymru yn wasanaeth partneriaeth ar gyfer rhieni sydd yn darparu gwybodaeth annibynnol ac yn cefnogi teuluoedd plant gydag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:
- trafod eich pryderon gyda chi
- eich helpu i ddeall pa gymorth gall eich plentyn ei dderbyn
- eich cefnogi mewn cyfarfodydd, ac mewn trafodaethau gyda’r ysgol
- rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau yn eich ardal leol
- trefnu cyfarfodydd gyda chi ac eraill os oes angen
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan SNAP Cymru.