Cynllun Tŷ Gwynedd – Coed Mawr, Bangor

Fel rhan o’n cynlluniau i ddarparu 1,500 o dai fforddiadwy erbyn 2027 rydym yn cychwyn ar raglen adeiladu newydd o’r enw Cynllun Tŷ Gwynedd.

Ein safle arfaethedig cyntaf yw safle’r hen ysgol yng Nghoed Mawr, Bangor.

Yn ystod mis Mawrth eleni byddwn yn cychwyn ar y gwaith o ymgynghori. Gallwch weld ein cynlluniau a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar wefan ein hasiant:

Gweld cynlluniau a rhoi eich barn


 

Rydym yn cynnig datblygu 6 tŷ tair lloft a 4 tŷ dwy lofft. Ein bwriad yw i werthu neu osod i’r farchnad canolraddol, sef i bobl leol sydd ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol ond methu fforddio prynu neu rentu ar y farchnad agored chwaith.

Byddwn yn gwerthu ar sail ein model rhan ecwiti, e.e. byddwn yn cadw 30% o ecwiti ym mhob eiddo er mwyn sicrhau pris sy’n fforddiadwy i’r farchnad leol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau fod y tai yn parhau yn nwylo pobl leol i’r dyfodol. Neu, mi fyddwn yn rhentu gan gynnig disgownt oddeutu 20% ar brisiau’r farchnad agored, gan helpu pobl i gynilo blaendal ar gyfer prynu yn y dyfodol.

I bobl leol sydd ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol ond methu prynu ar y farchnad agored chwaith. Gweld meini prawf a chofrestru diddordeb   

Pan fydd y tai yn dod ar gael yn 2023 bydd ymgeiswyr cymwys sydd wedi cofrestru efo Tai Teg yn gallu cyflwyno cais i brynu neu rentu un o’r tai yng Nghoed Mawr.

I gychwyn bydd ymgeiswyr sydd wedi byw am 5 mlynedd neu fwy parhaus o fewn wardiau Dewi, Hirael, Pentir ac Hendre yn gallu cyflwyno cais. Wedi hynny bydd cyfle i ymgeiswyr o wardiau eraill ym Mangor, sef Menai, Deiniol, Marchog, Hirael, Garth ac Arllechwedd, ac yn y blaen., 

Mae cyfle i'r gymuned leol ac ymgynghorai neu fudd-ddeiliaid statudol wneud sylwadau ar y cynlluniau. 

Byddwn yn gwerthuso'r sylwadau hynny ac yn ystyried a oes angen unrhyw addasiadau i'n cynlluniau cyn cyflwyno cais cynllunio.

Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cwblhau’r cartrefi cyntaf ar y safle yn 2023.

Os oes gennych ddiddordeb mewn byw yn un o dai Tŷ Gwynedd ar safle Coed Mawr, gallwch ddarganfod os yn debygol o fod yn gymwys drwy edrych ar wefan Tai Teg Meini Prawf Cofrestru. Pan ddaw'r tai ar gael bydd ymgeiswyr cymwys yn gallu gwneud cais amdanynt.

Rydym hefyd yn y broses o gynllunio safleoedd pellach ar draws y Sir gyda gwybodaeth bellach am leoliadau arfaethedig i ddilyn dros y misoedd nesaf. Cadwch lygad amdanynt trwy ein dilyn ar Facebook a Twitter

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys gallwch gofrestru gyda Tai Teg rŵan ac fe gewch wybod pan fydd modd i chi wneud cais am un o'r tai.

Cofrestru diddordeb

Yn ystod mis Mawrth eleni byddwn yn cychwyn ar y gwaith o ymgynghori. Gallwch weld ein cynlluniau a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar wefan ein hasiant:

Gweld cynlluniau a rhoi eich barn

Gallwch hefyd rannu eich sylwadau neu holi cwestiynau drwy gysylltu â'n hasiant ar y cynllun, Owen Devenport Ltd.

 

Am fwy o wybodaeth am cynllun ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ty-gwynedd a dilynwch ni ar Facebook a Twitter.