Cefnogi Pobl - Atal digartrefedd

Mae rhaglen Cefnogi Pobl yn comisiynu ac ariannu darparwyr i gynnig cymorth i unigolion bregus gadw eu tenantiaeth ac osgoi digartrefedd.

Nod y cynllun yw galluogi unigolion bregus, sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref, i fyw yn annibynnol, drwy ddarparu gwasanaethau cefnogol sy'n gysylltiedig â thai.

Gall y gwasanaeth gael ei ddarparu yng nghartref yr unigolyn, mewn hostel, tai gwarchod neu unrhyw dŷ lle ceir cefnogaeth. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth gyflenwol ar gyfer bobl sydd hefyd angen gofal bersonol neu feddygol.

Mae dros 20 o ddarparwyr yn cynnig gwasanaethau Cefnogi Pobl yng Ngwynedd ar hyn o bryd. 

Os ydych yn:

  • berson sy’n dioddef trais yn y cartref
  • berson ag anableddau dysgu 
  • berson â phroblemau iechyd meddwl
  • berson â phroblemau camddefnyddio sylweddau
  • berson â hanes o droseddu
  • berson â statws ffoadur
  • berson ag anableddau corfforol a/neu synhwyraidd
  • berson â salwch cronig
  • berson ifanc sy'n gadael gofal
  • berson ifanc ag anghenion cefnogi (16-24)
  • riant sengl ag anghenion cefnogi
  • deulu â anghenion cefnogi
  • berson sengl ag anghenion cefnogi (25-54)
  • berson dros 55 mlwydd oed ag anghenion cefnogi

Mae’n posib derbyn cymorth gan y Darparwyr i:

  • sefydlu a chynnal cartref
  • ddatblygu sgiliau domestig, ymarferol a chymdeithasol 
  • ddatblygu sgiliau bywyd sylfaenol, er enghraifft rheoli arian, hawlio budd-daliadau, eich cefnogi i dalu biliau, coginio a cymorth i siopa
  • gael mynediad at hyfforddiant, addysg a gwaith
  • gael mynediad at wasanaethau megis gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfreithiol
  • ddod o hyd i lety addas a gwasanaethau cefnogol cysylltiedig
  • ddarpariaeth larwm cymunedol
  • ddarparu gwasanaeth warden 

Cysylltwch â’ch swyddog tai, gweithiwr cymdeithasol, meddyg / nyrs neu eich swyddog prawf yn y lle cyntaf. Neu gallwch gysylltu â’r darparwyr yn uniongyrchol.

Os ydych yn derbyn budd-dal tai bydd y gwasanaeth ar gael am ddim. Fel arall, gallwch wneud cais am asesiad ariannol ac efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at y gost. 

Mae’n rhaid i bob darparwr Cefnogi Pobl fodloni amodau a meini prawf llym er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth o’r safon uchaf yn cael ei gynnig i chi. Mae pob darparwr wedi cael ei hachredu, ac mae’n rhaid iddynt ddangos tystiolaeth sy’n cadarnhau:

  • eu hymarferoldeb ariannol
  • eu bod yn gymwys i ddelio a bod yn gyfrifol am y Grant Cefnogi Pobl
  • bod ganddynt bolisïau cyflogaeth effeithiol
  • bod ganddynt weithdrefnau rheoli cadarn
  • enw am berfformiad da a chymwys
  • enghreifftiau o arferion da

Os nad yw’r safonau yma yn cael eu cyflawni neu os oes gennych gwyn i’w adrodd ynglŷn â’r gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan ddarparwr gwasanaeth cysylltwch â Uned Cefnogi Pobl y Cyngor:

  • E-bost: UnedPobl@gwynedd.llyw.cymru
  • Ffôn: 01286 682603
  • Cyfeiriad: Uned Cefnogi Pobl, Cyngor Gwynedd, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1BN 

Bob blwyddyn, mae Uned Cefnogi Pobl Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi Cynllun Comisiynu lleol. Gallwch weld copi o'r cynllun yma