Telerau ac amodau - tocyn parcio blynyddol
-
Gall daliwr tocyn blynyddol sy’n dewis nodi rhif cofrestru’r car, enw neu cyfeiriad neu enw busnes ar eu tocyn, barcio am ddim yn y meysydd parcio arhosiad hir a restrir isod.
-
Gall dalwyr tocynnau blynyddol sy’n 60+ barcio am ddim am hyd at 2 awr yn y meysydd parcio arhosiad byr a restrir uchod. Darperir cloc disg at ddefnydd pobl 60+ mewn meysydd parcio arhosiad byr. Rhaid dilyn y cyfarwyddiadau ar y disg a’i arddangos gyda’ch tocyn blynyddol.
-
Daw tocyn parcio i ben 12 neu 6 mis ar ôl ei gynhyrchu (yn ddibynnol pa docyn sydd ganddoch).
-
Nid oes llecyn parcio wedi’i warantu. Rhaid parcio oddi fewn y mannau sydd wedi’u marcio.
-
Rhaid arddangos y tocyn ar ffenestr flaen y cerbyd gan ddefnyddio’r amlen blastig a ddarparwyd ac mae’n rhaid medru ei ddarllen o’r tu allan. Mae peidio ag arddangos y tocyn yn drosedd o dan Orchymyn Parcio Oddi Ar y Stryd y Cyngor a gallwch dderbyn Rhybudd Talu Cosb. Mae telerau ac amodau sydd ar fwrdd tariff y meysydd parcio yn gymwys.
-
Ni ddylech lungopïo neu newid eich tocyn blynyddol neu adael i rywun arall wneud hynny.
-
Bydd cost o £10 am newid manylion ar y Tocyn Parcio Blynyddol.
-
Os collir y Tocyn Parcio Blynyddol bydd cost o £20 am ail-argraffu’r tocyn.
Meysydd parcio dilys
1) Arhosiad hir
- Aberdyfi Prif; Penhelig
- Abermaw Prif; Pen y Gogledd; Black Patch.
- Y Bala Y Grîn; Stryd Plase (rhan)
- Bangor Allt Castell; Sgwâr Kyffin a Minafon
- Beddgelert Colwyn Banc
- Bethesda Cae Star
- Blaenau Ffestiniog Diffwys
- Borth y Gest Prif Faes Parcio
- Caernarfon Safle Shell; Ffordd Balaclafa; Penllyn (llawr 2 a 3 yn unig), Canolfan Cyfiawnder Troseddol
- Criccieth Y Maes; Rhodfa’r Môr; Morannedd ac Abereistedd
- Dolgellau Marian (cefn); Marian Mawr (1 Tachwedd i 28 Chwefror yn unig)
- Y Friog Arglawdd; Ffordd y Traeth
- Harlech Bron y Graig (uchaf); Min y Don; Traeth Llandanwg
- Llanberis Ger y Llyn
- Porthmadog Iard yr Orsaf; Llyn Bach a Maes Parcio Cefn Stryd Lombard
- Pwllheli Ffordd Caerdydd; Stryd Penlan; Maes Parcio ger Tafarn y Black Lion; Penmount ac Y Promenad
2) Arhosiad byr – ar gael i ddeiliaid sy’n 60+ yn unig (hyd at 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr)
- Abermaw Ffordd Jiwbili
- Bala Stryd Plase (rhan)
- Bangor Plasllwyd; Minafon; Canondy; Stryd Jâms; Glanrafon
- Caernarfon Penllyn (dim llawr 2 a 3); Tan y Bont; Glan y Môr Uchaf Uchaf; Ffordd y Felin
- Dolgellau Marian (Mawr)
- Harlech Bron y Graig Isaf
- Porthmadog Heol y Parc
- Pwllheli Y Maes; Cei’r Gogledd
Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall y telerau ac amodau hyn cyn prynu tocyn parcio blynyddol.
Os am brynu tocyn parcio blynyddol neu os oes gennych unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r telerau a'r amodau, ffoniwch 01766 771000.