Teleofal
Beth ydi teleofal?
Mae teleofal yn wasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn eich cartref.
Ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion yw teleofal. Mae’n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn eich cartref gan eich galluogi i fyw bywyd mor annibynnol â phosib.
Cymerwch olwg ar y fideo isod i ddysgu mwy am teleofal, a sut y gallai fod o fudd i chi neu rywun arall yr ydych yn adnabod:
Pa offer sydd ar gael?
Mae ein pecyn teleofal yn cynnwys:
Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Mae'r broses o osod pecyn teleofal yn syml ac yn gyflym. Yr unig beth sydd angen yw cyswllt i linell teleffon a soced trydan gerllaw, a byddwn yn medru trefnu apwyntiad i un o’n gosodwyr osod offer yn eich cartref.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych linell teleffon neu os ydych eisoes wedi trosglwyddo i rwydwaith teleffon digidol, mae gennym rywbeth sydd yn gweithio i bawb.
Unwaith mae’r offer wedi’i osod yn eich cartref, bydd modd pwyso’r botwm ar eich pendant gwddf neu garddwrn i alw am gymorth. Bydd hyn cychwyn galwad ffôn awtomatig gyda’r ganolfan fonitro Galw Gofal trwy eich uned ‘Lifeline’.
Beth yw'r gost?
Mae cost o £5.19 yr wythnos* am becyn teleofal.
Mae’r ffi wythnosol yn cynnwys:
*Noder bod Cyngor Gwynedd yn adolygu ffioedd gofal yn flynyddol, felly gall cost wythnosol teleofal newid yn dilyn adolygiad blynyddol
Sut mae cofrestru?
Cysylltwch â ni i gofrestru am wasanaeth teleofal:
Os ydych chi'n denant i Gymdeithas Dai (e.e. Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru etc), gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol i drafod ei gwasanaeth teleofal.
Offer arbenigol
Rydym yn deall na fydd pecyn teleofal yn cwrdd ag anghenion pob un. O ganlyniad, mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu offer mwy arbenigol mewn rhai amgylchiadau e.e. sensoriaid epilepsi, 'falls detectors' ayyb. I drafod hyn gallwch gysylltu efo eich gweithiwr cymdeithasol, neu gysylltu gyda’ch tîm gwaith cymdeithasol lleol.
Ddim yn siŵr â phwy i gysylltu? Ewch i Pa wasanaethau sydd ar gael? am fwy o wybodaeth.