Teithio o le i le

Mae sawl dewis a gwasanaeth ar gael i chi o ran teithio os ydych yn cael trafferth mynd o le i le.


Tocynnau teithio

Mwy o wybodaeth am wahanol docynnau teithio sydd ar gael i’ch helpu:

  • Tocynnau teithio – gwnewch gais am bas bws er mwyn cael teithio ar fysiau a threnau lleol
  • Bathodyn Glas – cynllun parcio am ddim ar gyfer pobl anabl, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi barcio yn ymyl ble rydych yn mynd
  • Cardiau Rheilffordd Cenedlaethol (cyswllt allanol) – gwnewch gais am Gerdyn Rheilffordd i bobl hŷn neu bobl anabl er mwyn arbed arian ar docynnau trên.

 

Cludiant cymunedol

Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd defnyddio cludiant cyhoeddus oherwydd anabledd neu broblem symud. Gallech gael help i fynd i’r dref i wneud eich siopa’n wythnosol neu fynd at y doctor.

  • Barbara Bws Gwynedd:  gwasanaeth i’r rheiny na all symud o gadair i gerbyd.
    Ffôn: 07484 223 696
  • Cymrod:  cymorth cludiant i bobl anabl, hŷn a bregus yn ardal Dwyfor.
    Ffôn: 01758 614311
  • O Ddrws i Ddrws:  gwasanaeth i bobl hŷn neu anabl na all gyrraedd cludiant cyhoeddus.
    Ffôn: 01758 721777
  • Gwasanaeth Cludiant y Groes Goch:  ar gael i unrhyw un sy’n cael trafferth teithio.
    Ffôn: 01248 351103     
  • CIL De Gwynedd: gwasanaeth i bobl sy'n ei chael yn anodd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus - cymorth i fynd i'r ysbyty, gweld y meddyg neu'r deintydd neu i fynd i siopa.
    Ffôn: 01766 514249

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau bws a thrên lleol ac amserlenni yn adran Parcio, ffyrdd a theithio