Sut mae cael cymorth?

Beth bynnag yw eich sefyllfa, gall pawb gael mynediad at

  • wybodaeth
  • cyngor
  • cymorth

Os ydych chi, neu rhywun ydych chi'n gofalu amdanynt, angen cymorth i wella eich lles neu os oes gennych anghenion neu nam sy’n achosi problemau i chi o ddydd i ddydd, cysylltwch â ni. Byddwn wedyn yn asesu eich anghenion.

 

map oedolion

Gweld map llawn

1. Ardal Llŷn

2. Ardal Caernarfon

3. Ardal Bangor

4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd

5. Ardal De Meirionnydd

Bydd aelod o staff yn siarad â chi, eich teulu a’ch gofalwyr er mwyn canfod beth sy'n bwysig i chi er mwyn byw bywyd iach.

Bydd yr asesiad yn dangos os ydych yn gymwys i gael cymorth a sut help rydych ei angen.

Byddwn weithiau’n gorfod gofyn am farn gweithwyr proffesiynol eraill. Fyddwn ni ddim yn gwneud hyn heb eich caniatâd.

 

Pan fo brys mawr, argyfwng neu risg difrifol o niwed, anelwn at gychwyn yr asesiad o fewn 24 awr. Os ydych yn gymwys, byddwn yn trefnu i’r gwasanaeth gychwyn yn syth.

Fel arall byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser yr asesiad.