Pa wasanaethau sydd ar gael?

Cysylltwch â ni er mwyn cael y gwasanaethau hyn:

map oedolion

Gweld map llawn

1. Ardal Llŷn

2. Ardal Caernarfon

3. Ardal Bangor

4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd

5. Ardal De Meirionnydd

Gallwn roi gwybodaeth i chi dros y ffôn, yn electronig ac ar daflenni papur, neu gallwn eich cyfeirio at rywun all eich helpu. Bydd gwybodaeth berthnasol ac amserol yn eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir.

I’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib yn eich cartref eich hun, gallem ddarparu:

  • offer bychan
  • offer teleofal (gweler isod)
  • addasiadau bychan, fel rheiliau neu ganllaw grisiau
  • addasiadau mwy fel cadair grisiau neu ramp.

Mae Teleofal yn cynnig sicrwydd fod cymorth gerllaw os oes ei angen. Mae'n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn eich cartref gan eich galluogi i fyw bywyd annibynnol. 

Gwybodaeth am Teleofal Gwynedd

Ar ôl cyfnod o salwch neu ddamwain, gallech fod angen help i gael eich annibyniaeth yn ôl, cefnogi eich safon byw ac adennill hyder. Mae Galluogi'n wasanaeth arbenigol sy’n eich helpu i adennill sgiliau mewn gweithgareddau bob dydd fel

  • ymolchi a gwisgo
  • mynd o gwmpas y tŷ ac y tu allan i’r tŷ
  • paratoi prydau.

Os nad yw Galluogi'n gweithio i chi, gallech fod yn gymwys am beth gofal personol:

  • help i godi o’r gwely, mynd i’r tŷ bach, ymolchi, gwisgo neu baratoi bwyd
  • gwasanaeth siopa, casglu pensiwn, golchi dillad a glanhau (os yw’r asesiad yn dangos bod hyn yn flaenoriaeth. Mae’r math hwn o ofal fel arfer yn ychwanegol at ofal sylweddol gan ofalwr.)

Cyfle i gymdeithasu, gwneud ffrindiau a mwynhau gweithgareddau. Weithiau, yn ôl eich angen, caiff pryd a pheth gofal ei gynnwys.

Mae partneriaid, teulu a ffrindiau yn darparu gofal gwerthfawr i oedolion bregus. Mae’n bwysig cwrdd ag anghenion y gofalwyr hefyd, fel y gallant fyw eu bywyd eu hunain a chadw’u iechyd.

Mwy o wybodaeth: adran Gofalwyr

Fflatiau hunangynhaliol i bobl hŷn, lle caiff gofal a chefnogaeth eu darparu yn ôl yr angen. Mae’r fflatiau hyn yn galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosib cyhyd â phosib – gallech osgoi gorfod mynd i gartref neu ysbyty, neu gallech ddod oddi yno’n gynt. Mae cyfleon i chi gymdeithasu os mynnwch.
Gwybodaeth am Dai Gofal Ychwanegol yng Ngwynedd a sut i wneud cais:

Gwyliwch y fideo isod am fwy o wybodaeth am Cae Garnedd, cynllun gofal ychwanegol ym Mangor:

 

Mae nifer o bobl yn byw gyda’i gilydd mewn cartrefi gofal, ac mae staff proffesiynol yno 24 awr y dydd. Mae sawl cartref gofal yng Ngwynedd – caiff rhai eu rhedeg gan y Cyngor, rhai gan fusnesau, a rhai gan fudiadau dielw.

Mae rhai pobl yn aros mewn cartref gofal am gyfnod byr ar ôl salwch neu driniaeth neu er mwyn rhoi seibiant i’w gofalwr. Mae pobl eraill yn symud yno’n barhaol oherwydd na allant barhau i fyw’n annibynnol gartref.

Manylion cywsllt cartrefi preswyl neu nyrsio

Mae manylion cartrefi preswyl neu nyrsio yng Ngwynedd (a'r holl gartrefi eraill yng Nghymru) ar gael ar wefan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW), sy’n gyfrifol am arolygu cartrefi.

Gwefan Arolygiaeth Gofal Cymru.


Eich hawliau

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw newydd i bobl hŷn, sy’n darparu gwybodaeth hollbwysig am eu hawliau pan fyddant yn symud i fyw mewn cartref gofal.

Canllaw hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal

Mae gwasanaethau arbenigol ar gael i’r rheiny sy’n cael trafferth symud, gweld, clywed neu ddysgu:

  • help gyda thasgau dydd-i-ddydd
  • cyngor ar offer ac addasiadau
  • help gyda gofal personol
  • cymorth ac addasiadau i’r cartref fel bod pobl anabl yn gallu byw yn eu tai eu hunain, gyda staff yn cefnogi yn ôl yr angen
  • lleoliadau tymor hir neu dymor byr i’r rhai sydd angen cefnogaeth fwy dwys nag y gellir ei darparu adref
  • mae Bathodynnau Glas yn rhoi hawliau parcio ychwanegol i bobl â phroblemau cerdded difrifol
  • cyngor, arweiniad neu gefnogaeth i grwydro o gwmpas y gymuned.
  • gwasanaeth cymorth casglu gwastraff ac ail-gylchu: mwy o wybodaeth ar y dudalen Gwasanaeth Cymorth Casglu

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys y Datganiad o Fwriad ar gyfer gofal integredig i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth, rhwng Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

map gwasanaethau cymdeithasol

1. Ardal Llŷn

2. Ardal Caernarfon

3. Ardal Bangor

4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd

5. Ardal De Meirionnydd