Galwch Draw Gwynedd a Môn
Oes gennych chi’r amser a’r ymroddiad i helpu i ofalu am oedolion sy’n byw a dementia a nam ar y cof yng nghartref eich hun?
Mae Galwch Draw yn chwilio am alluogwyr sy’n barod i agor eu cartrefi am dâl i ddarparu:
- Cefnogaeth dydd
- Ysbaid
- Gwyliau byr
Mwy o wybodaeth
Neu, gwrandwch ar ein cyflweliad ar Môn FM.
Galwch Draw: cefnogaeth
Mae Galwch Draw yn credu y dylai pobl allu dilyn y bywydau maent am eu dilyn, tra eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn y cartref o’u dewis hwy.
Rydym yn trefnu i bobl gyda dementia neu nam ar y cof dderbyn cefnogaeth yng nghartrefi pobl sydd wedi’u dewis yn ofalus, sef galluogwyr Galwch Draw am y dydd neu am ysbaid. Mae’r gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu yn hyblyg ac wedi ei deilwro i anghenion yr unigolyn.
Pwy sy'n rhoi'r gefnogaeth?
- Rhywun sydd gan ystafell sbâr ac ymrwymiad i gefnogi pobl (os am gynnig ysbaid).
- Mwy na 'gwely a brecwast'
- Rhywun sy'n cynnig cartref diogel a sefydlog
- Rhywun sy'n dangos diddordeb gwirioneddol yn y person, a sy'n barod ei gefnogaeth i sicrhau cyfleon i'r unigolyn integreiddio o fewn y gymuned leol
- Rhywun sy'n annog y person i barhau ei berthynas / pherthynas gyda ffrindiau a theulu ac i fynychu canolfan ddydd neu unrhyw weithgareddau.
Eisiau bod yn rhan o'r cynllun?
Hoffwn glywed gennych os
- ydych eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl
- ydych yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant
- ydych yn gadarnhaol a gofalgar
- ydych yn sensitif i anghenion pobl
- ydych yn gallu gweithio â'r cynlluniau a gytunwyd
- ydych yn chwilio am ffordd hyblyg o ennill incwm ychwanegol
Mae profiad blaenorol yn y sector gofal yn ddefnyddiol ond nid yw’n ofyniad. Mae brwdfrydedd yr un mor werthfawr.
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
- Swydd Wobreuol
Mae swydd fel gofalwr yn cael ei adnabod fel un o’r swyddi mwyaf gwobreuol ar lefel personol.
- Hyfforddiant
Byddwn yn darparu anwythiad, hyfforddiant a chymorth i chi.
- Cyflogaeth
Byddwch yn derbyn taliad wythnosol (sy’n cynnwys lwfans treth hael).
Os oes cytundeb tenantiaeth ynghlwm wrth y lleoliad, yna bydd yr unigolyn yn talu rhent am ei ystafell.
Beth mae hyn yn ei olygu i mi wrth dderbyn cefnogaeth trwy Galwch Draw?
- Cefnogaeth yn y gymuned
- Cefnogaeth hyblyg
- Cefnogaeth berson-ganolog
- Ysbaid i’r gofalwr
Cysylltu â ni
Mae Galwch Draw yn rhan o Gynllun Cysylltu Bywydau Gwynedd a Môn
Cynllun Cysylltu Bywydau