Help i hawlio budd-daliadau

Os ydych yn derbyn unrhyw wasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, gall yr Uned Hawliau Lles gynnig cyngor annibynnol am ddim ynghylch y budd-daliadau rydych yn gymwys i'w hawlio. 

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • ymweliadau â'r cartref i asesu pa fudd-daliadau rydych yn gymwys amdanynt
  • help i lenwi ffurflenni cais
  • adfocatiaeth ar eich rhan
  • eich cynrychioli mewn apeliadau / tribiwnlysoedd
  • cyngor dros y ffôn
  • gweithio gyda mudiadau ac asiantaethau eraill i dderbyn cyfeiriadau
  • cyngor am daliadau fel y Lwfans Tanwydd Gaeaf
  • eich cyfeirio at wasanaethau eraill fel therapi galwedigaethol a gofal cartref.]

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Uned Hawliau Lles:

E-bost: UnedIncwmaLles@gwynedd.llyw.cymru

Rhif ffôn: 01286 682753

 

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw wasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac nad ydych yn gymwys am help gan yr Uned Hawliau lles, gall y sefydliadau hyn gynnig cyngor: