Gwasanaethau i Gefnogi Teululoedd

Gall rhai teuluoedd wynebu trafferthion ar adegau ac mae nifer o wasanaethau yn cefnogi teuluoedd drwy’r cyfnodau anodd yma.

Os ydych yn teimlo bod eich teulu angen help neu gefnogaeth, gallwch ofyn yn uniongyrchol am y gwasanaeth. Efallai eich bod yn cael trafferthion gyda pethau fel

  • Anabledd o fewn y teulu
  • Problemau a straen rhiantu
  • Ymddygiad anodd yn y cartref
  • Iechyd corfforol, emoisynol a lles
  • Camddefnydd o alcohol a chyffuriau
  • Beichiogrwydd yn yr arddegau
  • Materion tai
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn y teulu
  • Problemau gyda pherthnasoedd
  • Problemau yn yr ysgol
  • Datblygiad iaith, lleferydd a sgiliau chwarae plant
  • Trais yn y cartref 

Os ydych yn meddwl eich bod angen help, cysylltwch â ni. Gallwn ddweud wrthych a ydych yn gymwys am wasanaeth a chefnogaeth.

  • Ffôn: 01758 704455 (9:00 - 17:00, Llun - Gwener)
    Ffôn y tu allan i oriau: 01248 353 551 (unrhyw amser arall ac ar Ŵyliau'r Banc)
  • E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru 

 

Tîm o Amgylch y Teulu 

I fod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu,  bydd gennych nifer o bethau yn eich poeni ac eisiau cymorth i'w datrys wrth greu cynllun a thynnu asiantaethau at ei gilydd i'ch cefnogi.

Mwy o wybodaeth

Os ydych eisiau trafod gwasanaethau Tîm o Amgylch y Teulu, cysylltwch â'r Tîm Derbyn Cyfeiriadau Plant:
Ffôn: 01758 704 455
E-bost: cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru

Gweld Datganiad Preifatrwydd y tîm

 

Dechrau’n Deg

Efallai eich bod yn byw mewn pentref sydd yn derbyn Gwasanaeth Cefnogi Teulu drwy raglen Dechrau’n Deg. Mae Dechrau’n Deg yn cynnig mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd sydd gyda phlant dan 4 oed sy’n byw mewn cymunedau penodol o Wynedd.

Mae Dechrau'n Deg yn cynnig cymorth i rieni wrth i'w plant dyfu a datblygu.

  • Ymwelwyr Iechyd
    Mae ein ymwelwyr iechyd yn gallu treulio mwy o amser efo teuluoedd unigol, eu cefnogi a bod o help i rieni wrth fagu plant. Mae'r tîm iechyd ehangach yn cynnig cyrsiau rhiantu, grwpiau gwahanol fel Tylino / Mwytho Babi a sesiynau hybu iechyd. 
  • Iaith Llefaredd a chyfathrebu 
    Mae ein tîm o swyddogion Datblygiad Cynnar a Chwarae yn cynnig sesiynau 1:1 yn y cartref neu yn un o leoliadau Dechrau'n Deg.

    Bydd y swyddogion yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill gan gynnig sesiynau grŵp i ddatblygu sgiliau datblygiad cynnar a chwarae.
  • Cefnogaeth Rhiantu 
    Mae tîm o swyddogion arbenigol yn cynnig pecynnau cefnogaeth magu teulu, sesiynau 1:1 yn y cartref, arweiniad a help i ddatrys problemau fel sefyllfa'r cartref. Mae sesiynau'n grŵp ar gael i rieni, fel Y Blynyddoedd Rhyfeddol a Nurture Links.
  • Gofal Plant: 
    Rydym yn cynnig hyd at 12.5 awr o ofal plant rhwng 2-3 am ddim yn ystod y tri thymor ysgol. Bydd plant yn gallu cychwyn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed. 
  • A mwy...
    Mae Plas Pawb, Maesincla a Chaban Bach Barnados, Maenofferen a Chanolfan Tŷ Cegin, Maesgeirchen yn cynnal cyrsiau, gofal plant ac yn cynnig cyfle i chwarae a chymdeithasu. 
    Mae Dechrau'n Deg hefyd yn gweithio'n agos gyda phrosiectau fel Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig cyfleoedd a phrofiadau i deuluoedd Gwynedd.

Os yw eich plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng Ebrill 1 ac Awst 31, bydd yn gallu cychwyn Dechrau'n Deg ym mis Medi.

Os yw eich plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng Medi 1 ac Rhagfyr 31, bydd yn gallu cychwyn Dechrau'n Deg ym mis Ionawr.

Os yw eich plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng Ionawr 1 a Mawrth 31, bydd yn gallu cychwyn Dechrau'n Deg ar ôl y Pasg.  

 

Dyma'r lleoliadau gofal plant sydd ar gael:

Gofal plant
 Bangor Cylch Meithrinfa

Caban Cegin

       
 Caernarfon Cylch Meithrin 
Maesincla
Cylch Seiont 
a Peblig 
Meithrinfa 
Plas 
Pawb 
   
 Blaenau  
 Ffestiniog
Meithrinfa  
Caban Bach
       
 Bethesda Cylch Cefnfaes Meithrinfa 
Ogwen
     
 Dyffryn Nantlle Cylch Talysarn Cylch Carmel Cylch 
Brynaerau
Cylch Llanllyfni Cylch Penygroes
 Dolgellau Cylch Meithrin Dolgellau        

 

Mae eich hawl i fanteision y Cynllun yn dibynnu ar eich cod post. Er mwyn gwirio ydych chi'n gymwys, cysylltwch â phrif swyddfa Dechrau'n Deg:

Ffôn: 01286 678824
E-bost: dechraundeg@gwynedd.llyw.cymru

Os nad ydych chi'n gymwys am y Cynllun hwn, mae posib y bydd gwasanaethau eraill ar gael i chi. 

 

Mwy o wybodaeth

Eich Ymwelydd Iechyd yw eich prif gyswllt â Dechrau'n Deg.

Neu cysylltwch â'r Tîm Canolog ar:
01286 678 824 / DechraunDeg@Gwynedd.llyw.cymru

 

 

Beth ydym ni'n gwneud â'ch a sut rydym yn defnyddio eich data?