Cynllun Gofal Plant Cymru
Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng:
01/09/2016 – 31/03/2018
Beth yw'r cynnig?
- Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgol, yn ychwanegol at y 10 awr o Addysg Feithrin sy'n cael ei ddarparu'n barod.
- Yn ystod hyd at 9 wythnos o wyliau'r ysgol, gall rhieni dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant.
- Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd yn addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed yn y sir neu’r tu allan, trwy gytuno gyda’r darparwr a’r awdurdod lleol. Nid oes rhaid i’r gofal plant gael ei roi gan yr un darparwr â’r ddarpariaeth Addysg Feithrin.
- Gall plant sy'n gymwys dderbyn y cynnig; tan y mis Medi yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd, pan fyddant yn cychwyn ar addysg llawn amser.
Dyddiad Geni
|
Cymwys i’r Cynnig o:
|
Ceisiadau ar Agor:
|
01/09/2016 – 31/03/2017
|
01/09/2020
|
Ar agor o 10/08/2020
|
01/04/2017 – 31/08/2017
|
Cyn gynted fydd eich cais wedi prosesu
|
Ar agor 01/09/2020
|
01/09/2017 – 31/12/2017
|
04/01/2021
|
Ar agor 09/11/2020
|
01/01/2018 - 31/03/2018
|
12/04/2021
|
Ar agor 22/02/2021
|
01/04/2018 – 31/08/2018
|
01/09/2021
|
Ar Agor 07/06/2021 |
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi gwrdd â’r meini prawf cymhwyster isod:
- Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin ran-amser
- Yr ydych yn byw yng Ngwynedd, Môn neu Conwy
- Yr ydych yn gweithio ac yn ennill yr hyn sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol; neu eich bod yn derbyn budd-daliadau gofal penodol
Rhieni a fyddai fel arfer wedi cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd incwm ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ond nad ydyn nhw nawr o ganlyniad i Covid-19
Bydd rhieni sy'n gwneud cais am y Cynnig yn cael eu hystyried yn gymwys os gallant dystiolaethu y byddent fel arfer yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd enillion ar gyfer y Cynnig.
Bydd angen i chi dystiolaethu, o ganlyniad i Covid-19, bod eich enillion ym mis Ionawr / Chwefror 2020 wedi cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd incwm ar gyfer y Cynnig ond eich bod wedi gweld gostyngiad mewn incwm ers hynny.
Byddwn yn ailwirio cymhwysedd rhieni sy'n dod o fewn y categori hwn ddiwedd mis Ionawr. Byddwch yn cael cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos, gan ddechrau ar 1 Chwefror, os nad yw'ch incwm yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer y Cynnig neu os nad oes disgwyl iddo fodloni'r gofynion o 1 Chwefror. Bydd cyllid yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod eithrio oni bai bod eich incwm yn cwrdd â'r meini prawf perthnasol.
Sut i wneud cais?
Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf uchod, cwblhewch y ffurflen gais
Ffurflen Gais
Ffurflen Gais Word
Bydd angen i chi lawrlwytho'r ffurflen gais (uchod)
Mae RHAID ei anfon drwy e-bost i cynniggofalplant@gwynedd.llyw.cymru
Sylwch - bydd methu â chyflwyno'r holl ddogfennau gofynnol gyda'ch cais yn arwain at oedi wrth brosesu
Nid yw’n bosib anfon ffurflen gais yn y post ar hyn o bryd
Byddwch yn cael eich hysbysu am ganlyniad eich cais trwy e-bost ymhen 10 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.
Bydd eich hawl am ofal plant a ariennir yn dechrau ar ôl i chi dderbyn eich llythyr cadarnhad - ni fydd unrhyw geisiadau yn cael eu hôl-ddyddio.
Rhaid i chi ddangos eich llythyr cadarnhau i'ch darparwr gofal plant i ddangos eich cymhwysedd ar gyfer y Cynnig.
Mwy o wybodaeth:
Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant
Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr
Y rhieni sy’n gyfrifol am ddod o hyd i ofal plant sydd yn cwrdd â’u hanghenion; fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i deuluoedd roi manylion am y gofal plant sydd ar gael yn eich ardal. Cysylltwch naill ai â:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Teulu Môn