Cynllun Taliadau Arbennig i'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo’r rheiny sydd wedi gweithio yn ystod pandemig COVID-19. Taliad un tro o £500 yw’r wobr sy’n destun treth ac Yswiriant Gwladol.
I dderbyn y taliad hwn, rhaid i staff gofal fod wedi’u cyflogi mewn rôl gymwys rhwng 15 Mawrth a 31 Mai 2020. Gall hyn gynnwys y rhai sydd wedi gadael rolau cymwys ers hynny.
Dim ond un taliad y gall staff gofal ei hawlio er y nifer y cyflogwyr y maent wedi gweithio iddynt yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r criteria llawn ar gael yma.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael taliad, siaradwch â'ch cyflogwr yn y man cyntaf os ydynt yn gwrthod eich cais yna mae bosib i chi ddilyn y broses apêl isod.
Proses Apêl
Awdurdodau lleol sy'n gweinyddu taliadau ar gyfer y cynllun ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae'r broses hon yn gymwys pan fo hawliad wedi'i wrthod gan yr awdurdod lleol.
Mae'r broses apelio yn broses dau gam.
Cam 1 - Ailystyried
- Mae’r gweithiwr yn gofyn i benderfyniad yr awdurdod lleol gael ei ailystyried.
- Cwblheir ffurflen yn nodi p’un o’r meini prawf cymhwysedd y mae’r unigolyn yn credu ei fod yn ei wneud yn gymwys.
- Yr ALl sy'n ailystyried. Byddwn yn cyhoeddi nodyn cynghori fel y bydd ALlau yn rhoi dull cyson ar waith er mwyn ymdrin â'r cam hwn.
- Os oes camgymeriad wedi'i wneud a/neu os nodir bod y gweithiwr gofal yn gymwys, mae'r ALl yn trefnu’r taliad
- Os bydd yr ALl yn parhau i benderfynu bod y gweithiwr yn anghymwys, bydd yr ALl yn anfon llythyr at yr unigolyn yn nodi'r rhesymeg dros y penderfyniad (rhoddir templed). Hysbysir yr unigolyn y gall gyflwyno cais i symud ymlaen at Gam 2.
- Os nad yw’r ALI yn siŵr, oherwydd cymhlethdod/unigoliaeth yr amgylchiadau, bydd yr ALI yn symud ymlaen at Gam 2 ac yn rhoi gwybod i’r gweithiwr unigol.
- Amserlen ar gyfer canlyniad Cam 1 - 10 diwrnod gwaith.
Ffurflen gais am ailystyriaeth
Cam 2 - Panel Apeliadau Llywodraeth Cymru
- Mae Panel Llywodraeth Cymru yn ystyried apeliadau ar ôl ailystyried yn rhan o Gam 1, lle mae pobl yn dymuno mynd ar drywydd hyn. Gall yr ALl atgyfeirio at y Panel ei hun os nad yw'n teimlo y gall wneud y penderfyniad oherwydd cymhlethdod/ansicrwydd.
- Bydd Cydlynydd y Cynllun yn cofnodi atgyfeiriadau a monitro amserlenni a’r broses.
- Mae Cylch Gorchwyl y Panel Apeliadau yn nodi na all newid meini prawf cymhwysedd y cynllun.
- Bydd rhesymeg glir yn cael ei chofnodi ar gyfer pob penderfyniad a bydd llythyr templed yn cael ei anfon at y gweithiwr unigol a'i gyflogwr a'r ALl perthnasol.
- Bydd Cydlynydd y Cynllun yn rhoi gwybod am benderfyniadau a wneir i’r ALIau ac yn cydlynu newidiadau i Gwestiynau Cyffredin yn unol â hynny.
- Amserlen ar gyfer canlyniad Cam 2 - 10 diwrnod gwaith o ganlyniad Cam 1.
Gwneud penderfyniadau: Mae Gweinidogion Cymru wedi dirprwyo awdurdod i’r Panel Apeliadau i benderfynu ar apeliadau. Bydd y Cadeirydd yn gofyn i'r Panel ddod i gonsensws. Os bydd y Cadeirydd o'r farn na all y Panel wneud penderfyniad hyderus, caiff y mater ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru.
Bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad yn dilyn cael cyngor a gwybodaeth bellach angenrheidiol. Mae'r broses hon yn debygol o gael ei dirprwyo i Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Sifil.
Cyfansoddiad y Panel Apeliadau: Mae'r Panel Apeliadau i bob pwrpas yn grŵp gorchwyl a gorffen lle gall Gweinidogion wneud penodiadau heb ymgynghori. Ni cheir unrhyw daliadau cydnabyddiaeth. Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolydd Llywodraeth Cymru, cynrychiolydd awdurdodau lleol, cynrychiolydd TUC Cymru, cynrychiolydd darparwyr a Chadeirydd. Gall y Panel ofyn am gyngor cyfreithiol gan Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Gofynnir i bob cynrychiolydd ddatgan buddiannau sy’n gwrthdaro ac ymatal rhag gwrando ar yr apeliadau hynny. Bydd cynrychiolwyr wedi nodi cydweithwyr a fydd yn cymryd eu lle mewn amgylchiadau o'r fath.
Amlder Cyfarfodydd y Panel: Mae'n anodd rhagweld y galw ond mae gwneud penderfyniadau amserol yn bwysig er mwyn osgoi amser aros diangen i'r rhai sy'n gysylltiedig. Rydym yn cynnig cyfarfodydd wythnosol. Caiff y rhain eu canslo os nad oes busnes.
Amserlen Cyfarfodydd y Panel: Mae dyddiad cyfarfod cyntaf y Panel yn dibynnu ar y dyddiad y caiff y taliadau cyntaf eu gwneud. Ni allwn ragweld cynnydd neu ostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i'r Panel dros amser gan ei bod yn debygol y telir gweithwyr gofal dros nifer o fisoedd.
Ystyried adnoddau
Cydlynydd y Cynllun: Cyfrifoldebau:
- Yn monitro blwch post penodol sy’n bwynt cyswllt ar gyfer ALIau
- Yn derbyn ac yn tracio atgyfeiriadau
- Yn trefnu cyfarfodydd Paneli/dosbarth papurau o flaen llaw
- Yn dosbarthu llythyrau penderfyniad
- Dosbarthu dysgu a datblygiadau i ALIau ac yn diweddaru Cwestiynau Cyffredin/canllawiau i ALI er cysondeb gwneud penderfyniadau.
- Yn rheoli gohebiaeth uniongyrchol gan unigolion am y broses - gan ailgyfeirio i’r ALI
Amcangyfrifir y bydd angen i’r unigolyn hwn weithio 1.5 diwrnod yr wythnos yn rhan o’r rôl hon fydd ar gael rhwng canol mis Awst a diwedd mis Rhagfyr. Mae'n debygol y bydd y llwyth gwaith yn amrywio yn ystod y cyfnod hwn. Mae Cydlynydd y Cynllun wedi’i nodi yn y tîm Polisi’r Gweithlu.
Cadeirydd: Caiff Cadeirydd ei benodi. Bydd yn:
- unigolyn allanol, nad yw’n cael ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru, awdurdod lleol neu ddarparwr gofal cymdeithasol perthnasol
- Bydd ganddo ddealltwriaeth o ofal cymdeithasol sut mae darpariaeth ofal yn cael ei strwythuro
- Bydd ganddo sgiliau a phrofiad o gymryd rhan mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol a’u cadeirio
- Bydd yn hyderus wrth gynnal cyfarfodydd y Panel trwy ddefnyddio Microsoft Teams
- Ni fydd â buddiant sy’n gwrthdaro y gellir ei nodi
- Bydd ganddo sgiliau trefnu a chyfathrebu proffesiynol da, dealltwriaeth o faterion cyfrinachedd a bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb trwy ei waith.
Amcangyfrifir y bydd angen i’r unigolyn weithio 0.5 diwrnod yr wythnos am sawl mis yn rhan o’r rôl hon. Mae'n debygol y bydd y llwyth gwaith yn amrywio yn ystod y cyfnod hwn.
Camau pellach
- Mewn amgylchiadau eithriadol iawn, gall y Panel nodi na all wneud penderfyniad o fewn telerau'r canllawiau presennol a bydd eithriad neu ddiwygiad i'r canllawiau yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru.
- Gall unigolyn sy'n parhau’n anfodlon ar y penderfyniad ar ei daliad ofyn am Adolygiad Barnwrol.