Cynllun Gofal Plant Cymru
Beth yw'r cynnig?
- Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgol, yn ychwanegol at y 10 awr o Addysg Feithrin sy'n cael ei ddarparu'n barod.
- Yn ystod hyd at 9 wythnos o wyliau'r ysgol, gall rhieni dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant.
- Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd yn addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed yn y sir neu’r tu allan, trwy gytuno gyda’r darparwr a’r awdurdod lleol. Nid oes rhaid i’r gofal plant gael ei roi gan yr un darparwr â’r ddarpariaeth Addysg Feithrin.
- Gall plant sy'n gymwys dderbyn y cynnig; o ddechrau’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd(gweler dyddiadau isod), tan y mis Medi yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd, pan fyddant yn cychwyn ar addysg llawn amser.
Dyddiad Geni
|
Cymwys i’r Cynnig o:
|
Ceisiadau ar Agor:
|
01/09/2015 – 31/12/2015
|
07/01/2019
|
Ar agor
|
01/01/2016 – 31/03/2016
|
29/04/2019
|
Ar agor
|
01/04/2016 – 31/08/2016
|
02/09/2019
|
Ar agor
|
01/09/2016 - 31/12/2016
|
06/01/2020
|
Ar agor
|
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi gwrdd â’r meini prawf cymhwyster isod:
- Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin ran-amser
- Yr ydych yn byw yng Ngwynedd, Môn neu Conwy
- Yr ydych yn gweithio ac yn ennill yr hyn sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol; neu eich bod yn derbyn budd-daliadau gofal penodol
Sut i wneud cais?
Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf uchod gallwch gyflwyno cais drwy gwblhau'r ffurflen gais:
Ffurflen Gais
Ffurflen Gais Word
Gallwch un ai brintio a’i phostio i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar waelod y ffurflen, neu anfon drwy e-bost i gofalplant30awr@gwynedd.llyw.cymru
I dderbyn copi papur plîs cysylltwch gydag Uned Gofal Plant Gwynedd a Môn ar 01248 352 436
Byddwch yn cael eich hysbysu am ganlyniad eich cais trwy e-bost ymhen 10 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.
Bydd eich hawl am ofal plant a ariennir yn dechrau ar ôl i chi dderbyn eich llythyr cadarnhad.
Mwy o wybodaeth:
Am wybodaeth bellach am y cynnig hwn, darllenwch y crynodeb isod:
Neu, cysylltwch â ni:
Y rhieni sy’n gyfrifol am ddod o hyd i ofal plant sydd yn cwrdd â’u hanghenion; fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i deuluoedd roi manylion am y gofal plant sydd ar gael yn eich ardal. Cysylltwch naill ai â:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Teulu Môn