Drysau Agored Eglwys y Santes Fair Penllech

Lleoliad
Eglwys y Santes Fair Penllech
Dyddiad(au)
01 - 30/09/2018
Disgrifiad

Bydd Digwyddiad Drysau Agored yn digwydd yn Eglwys y Santes Fair, Penllech drwy gydol Mis Medi 2018, rhwng 10.00yb a 5.00yp.

Wedi'i leoli ar Benrhyn Llyn, eglwys ddiddefnydd yw Eglwys Santes Fair.  Adeiladwyd yr Eglwys wreiddiol yn yr oesoedd canol ond y bedyddfaen yw'r unig ddarn sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwnnw.  Yr hyn a welwn  heddiw mewn gwirionedd yw Eglwys a ail adeiladwyd yn 1840 gan Samuel Jones ond er hynny un o symlrwydd diddyddiad.