Diwrnod Agored Eglwys Sant Twrog Llandwrog

Lleoliad
Eglwys Sant Twrog Llandwrog
Dyddiad(au)
16/09/2018
Disgrifiad

Cynhelir Diwrnod Agored Eglwys Sant Twrog, Llandwrog ar Brynhawn Sul 16 Medi 2018, rhwng 12.30yp a 3.00yp.

Mae'r tu mewn yn anghyffredin iawn gan fod y seddau wedi eu gosod ar hyd corff yr Eglwys yn hytrach nag ar draws.  Mae ynddi lawer o greiriau nodweddiadol.  Saif yr Eglwys yng nghanol pentref Llandwrog tua milltir oddi ar yr A499 ger Caernarfon