Helfa Wyau Porth y Swnt (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Lleoliad
Porth y Swnt Aberdaron
Dyddiad(au)
30/03/2018 - 01/04/2018
Disgrifiad

Beth am ddathlu blwyddyn y môr yn Aberdaron y Pasg yma?  Efallai eich bod yn adnabod wyau cyw iâr o'ch wyau estrys, ond pa mor dda ydych chi'n adnabod eich bywyd gwyllt morwrol?  Darganfyddwch y cliwiau o amgylch Porth y Swnt a'r pentref i weld os gallwch gyfateb i ba wyau sy'n perthyn i ba greadur y môr.  Peidiwch ag anghofio eich gwobr siocled pan fyddwch wedi cwblhau’r dasg.

Pris: £2 y plentyn