Telerau ac amodau amgueddfeydd
Amodau a thelerau: Ymweld â STORIEL neu Amgueddfa Lloyd George
- Rhaid i chi drefnu apwyntiad cyn ymweld â STORIEL neu Amgueddfa Lloyd George.
- Gallwch drefnu apwyntiad ar-lein neu drwy ffonio
Amgueddfa Lloyd George:
01766 522 071 / 01248 353 368
STORIEL:
01248 353 368.
- Mae grwpiau'n gyfyngedig hyd at 6 o bobl. Dylai pawb yn eich grŵp fod o'r un cartref neu swigen. Mae hyn yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
- Mae archebion ar gael 30 diwrnod ymlaen llaw.
- Dim ond un toiled fydd ar gael at ddefnydd brys yn unig a rhaid glanhau'r toiled hwn gyda glanweithyddion a ddarperir cyn ac ar ôl ei ddefnyddio. Bydd ein toiledau ar agor i ymwelwyr yn unig.
STORIEL yn unig: dim ond ar ddechrau neu ar ddiwedd eich ymweliad y bydd toiled ar gael.
- Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn eich apwyntiad. Bydd aelod o staff yn eich croesawu wrth y drws. Ni all yr Amgueddfa warantu mynediad i gwsmeriaid sy'n cyrraedd fwy na 15 munud ar ôl yr amser cychwyn a nodir ar eu Tocyn.
- Bydd eich ymweliad yn awr o hyd gyda llif unffordd trwy'r adeilad, bydd ymweliad a siop Storiel ar ddiwedd eich ymweliad neu drwy giwio y tu allan. Bydd glanweithydd dwylo yn ardal ein siop. Bydd gofyn i chi ei ddefnyddio yma hefyd os ydych chi'n dymuno trin unrhyw eitemau. Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â thrafod eitemau oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol. Rydym yn annog talu mewn modd di gyswllt.
- Gyda gofid mawr rydym wedi penderfynu dileu'r rhan fwyaf o'n gweithgareddau fel gwisgo i fyny a thrafod casgliadau. Yn ogystal, ni fydd ein sgriniau rhyngweithiol, sy'n gofyn am gyffwrdd a defnyddio ffonau clust ac ati, ar gael. Lle bo modd, rydym wedi ychwanegu codau QR at y dehongli fel y gallwch wylio / gwrando yn ddigidol ar eich dyfais eich hun. Dewch â'ch clustffonau eich hun.
- Amgueddfa Lloyd George yn unig: Mae'n destun gofid mawr ein bod wedi gwneud y penderfyniad i gael gwared ar rai agweddau ar y daith gan gynnwys, er enghraifft, y ffilm yn y theatr a'r ymweliad â bwthyn Highgate, fodd bynnag, gallwch ymweld â gardd y bwthyn o hyd.
- Bydd angen i chi ddod â'ch cyfeirnod archebu a'ch ID ar gyfer aelodau o'ch grŵp yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru.
- Gallai aelod o staff gysylltu â chi cyn eich slot i gael mwy o wybodaeth fel y byddwch chi'n mwynhau ac yn cael y profiad gorau.
- Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd yn ofynnol i'r holl staff ac ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb. Bydd staff naill ai y tu ôl i sgrin neu byddant yn cadw pellter 2m oddi wrth gwsmeriaid bob amser.
- Peidiwch â mynychu os ydych chi neu aelod o'ch grŵp wedi dioddef unrhyw symptomau Covid-19 yn ystod y 10 diwrnod diwethaf cyn eich ymweliad, os ydych wedi bod mewn cysylltiad â pherson a oedd â symptomau Covid-10 neu os ydych wedi dychwelyd o wlad sydd ar y rhestr cwarantîn.
- Os na allwch ymweld am unrhyw reswm, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn gynnig eich slot i rywun arall:
Amgueddfa Lloyd George
amgueddfalloydgeorge@gwynedd.llyw.cymru
01766 522071
STORIEL
STORIEL@gwynedd.llyw.cymru
01248 353368
- Ni fydd yn bosibl derbyn eitemau ar gyfer y casgliad yn ystod eich ymweliad oni bai eich bod wedi gwneud trefniadau ymlaen llaw gyda'n Swyddog Casgliadau.
Tocynnau
- Ni chaniateir trosglwyddo neu ailwerthu eich Tocynnau at ddibenion masnachol neu am bremiwm. Os yw Tocyn yn cael ei drosglwyddo neu ei ailwerthu yn groes i'r amod hwn, gwrthodir mynediad i Amgueddfa.
- Er mwyn cydymffurfio â gwasanaeth olrhain, mae angen manylion y person arweiniol yn eich archeb a rhif ffôn ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw am 21 diwrnod ac yna'n cael ei gwaredu yn unol â chanllawiau GDPR.
Polisi ad-dalu a chyfnewid ar gyfer tocynnau
- Ni fydd yn ofynnol i Amgueddfa Lloyd George ad-dalu'ch Tocynnau ar ôl eu prynu.
- Os na all Amgueddfa Lloyd George ganiatáu ichi ad-dalu'ch Tocyn ar y dyddiad(au) y cytunwyd arnynt oherwydd nad yw'n bosibl darparu mynediad bydd yr Amgueddfa'n aildrefnu dyddiad arall ar gyfer eich ymweliad â gwerth wyneb y Tocynnau prynu.
- Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ad-daliadau yn cael eu hasesu yn ôl disgresiwn y staff rheoli.