Daw'r ddeddf i ganiatáu seremonïau priodas cyplau o’r un rhyw i rym ddydd Sadwrn, 29 Mawrth, 2014
Prif ddarpariaethau’r ddeddf yw:
- caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi trwy seremoni sifil;
- caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi drwy seremoni grefyddol os yw’r sefydliad crefyddol wedi “optio i mewn” i gynnal seremonïau o’r fath ac os yw’r gweinidog yn gytûn;
- caniatáu i bartneriaid sifil drosi eu partneriaeth i briodas os dymunent wneud hynny.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.