Gwasanaeth Cofrestru Gwynedd yn ystod Covid-19

Priodas a Phartneriaeth Sifil

Mae seremonïau priodas a phartneriaeth sifil wedi ailddechrau yng Ngwynedd.

Rydym yn dilyn y cyngor a'r arweiniad gan Lywodraeth Cymru ar bellhau cymdeithasol ac ymddygiad cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod cynnwys a ffurf seremonïau priodas a phartneriaeth sifil wedi'u hadolygu ac rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau ar nifer y bobl a ganiateir yn ein hystafelloedd seremoni yr un pryd, a byddwn yn anogi pawb sydd yn mynychu’r seremoni i wisgo gorchudd wyneb.

Bydd pellhau corfforol yn helpu i sicrhau bod swyddogion ac ymwelwyr yn ddiogel ac yn helpu i atal lledaeniad coronafirws.

Mae’r rhan fwyaf o’n Ystafelloedd ni yn y Swyddfa Gofrestru gyda uchafswm o 6 o bobl (y ffigwr yma yn cynnwys y cwpwl a’r 2 gofrestrydd).