Ymgynghoriad Cyfathrebu Gwasanaeth Cymdeithasol
Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd, sy’n cynnwys Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, rwymedigaeth statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion. Mae’r gwasanaethau yn grymuso trigolion i reoli eu bywydau eu hunain; hybu annibyniaeth; cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a'u cyfranogiad mewn cymdeithas; a hyn oll wrth helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach.
Rhan fawr o wneud y gwaith hwn yw cyfathrebu gyda chi; defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir. Felly, credwn ei fod yn holl bwysig deall beth yw eich barn chi ar ein cyfathrebu presennol. Carwn glywed eich meddyliau er mwyn deall beth yw’r ffyrdd orau a mwyaf addas i ni gyfathrebu â chi yn y dyfodol.
Rhoi eich barn
Cwblhewch yr arolwg ar-lein isod er mwyn rhoi eich barn:
Arolwg Ar-lein: Cyfathrebu Gwasanaeth Cymdeithasol
Rhaid llenwi'r arolwg cyn 22 Rhagfyr 2023.
Mae’r holiadur hwn yn ddienw. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth a fyddai'n datgelu pwy ydych chi neu unrhyw unigolyn arall oni bai eich bod yn dymuno i ni gysylltu â chi ynglŷn â chyfleoedd i ymgysylltu ymhellach.
Bydd yr wybodaeth a roddwch wrth gwblhau'r arolwg hwn yn cael ei drin yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.
Mae copïau papur o'r ymgynghoriad hefyd ar gael drwy ffonio 01286679223
Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am unrhyw fater cydraddoldeb, neu os oes gennych gwestiwn neu sylw am yr arolwg yma, cysylltwch ar
E-bost: Sianip@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffôn: 01286679223
Cyfnod yr ymgynghoriad: 13.11.23 – 22.12.23