Darpariaeth teithio llesol A487 Cylchfan y Faenol, Bangor

Hoffem glywed eich barn ar gynlluniau i wella’r ddarpariaeth gerdded, seiclo ac olwyno ger Cylchfan y Faenol ar yr A487, Bangor.

Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, yn ymgynghori ar gynigion i’w gwneud yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl gerdded, olwyno a beicio ger Cylchfan y Faenol ar yr A487. Mae Mott MacDonald a Chyngor Gwynedd yn cefnogi NMWTRA i gyflawni'r cynllun hwn. 

Nod y cynllun hwn yw gwella’r seilwaith teithio llesol ar Gylchfan y Faenol ac ar ffyrdd dynesu’r B4547 a’r A487 Allt y Faenol.

Mae manylion llawn am y cynllun sy'n cael ei ystyried i'w gweld yn y ddogfen ymgynghori a'r fersiwn hawdd ei darllen isod:

Dogfen ymgynghori: Manylion am y cynllun

Dogfen ymgynghori: Fersiwn hawdd i'w darllen

 

Rhoi eich barn

Gallwch gyflwyno eich adborth am y cynllun ar-lein:

Holiadur ar-lein: A487 Cylchfan y Faenol

Gofynnwn i chi gyflwyno eich ymateb erbyn 10 Hydref 2024.

 

Cysylltu â ni

Gallwch hefyd yrru eich adborth, neu gysylltu i am fwy o wybodaeth, drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod: