Archwiliad Gwelliant: Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal archwiliad gwelliant o Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd.
Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn adolygu pa mor dda yw Cyngor Gwynedd wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol o ran cadw unigolion sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, yn ddiogel, a hyrwyddo eu llesiant.
Er mwyn derbyn darlun llawn a chlir o’r sefyllfa yng Ngwynedd rydym yn gofyn yn garedig i chi gwblhau arolwg mewn perthynas â’r adolygiad:
Arolwg Pobl – Gwiriad Gwella
Arolwg Pobl (fersiwn hawdd ei ddarllen) – Gwiriad Gwella
Bydd eich sylwadau’n gyfrinachol ac ni chânt eu rhannu â Chyngor Gwynedd.
Os byddai'n well gennych siarad yn uniongyrchol â AGC am eich adborth, cysylltwch â:
Rhaid ymateb erbyn 7 Hydref 2024. Diolchwn am eich cefnogaeth a chydweithrediad.