Holiadur Pwyntiau Gwefru Ceir Gwynedd

Gosod mannau gwefru ar gyfer ceir trydan yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i wrando ar farn ein cymunedau wrth fynd ati i osod mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar draws y sir.

Mae’r mwyafrif o bobl yn ymwybodol o’r angen i leihau eu hôl-troed carbon. Mae trydaneiddio trafnidiaeth yn un ffordd o wneud hyn ac yn ran fychan o’r datrysiad sydd yn ein symud thuag at gymdeithas ddi-garbon. Felly, rydym eisiau gwneud hi’n haws i drigolion newid o gerbydau petrol a disel drwy ddarparu rhwydwaith hygyrch rhagor o bwyntiau gwefru ceir trydan.

Fel Cyngor, rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon o 47% ers 2006, ac wedi cychwyn y gwaith o drydaneiddio ein fflyd er mwyn adeiladu ar hyn.

Drwy gydweithio gyda Scottish Power Energy Networks [SPEN], rydym wedi adnabod nifer o leoliadau addas ar gyfer pwyntiau gwefru. Fodd bynnag, i barhau hefo’r gwaith yma rydym angen eich cymorth. Bydd y gwybodaeth fydd yn cael ei gasglu trwy’r holiadur yma yn ein helpu i osod y pwyntiau gwefru mewn lleoliadau addas lle mae’r galw amdanynt yn uwch. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i ni fel Cyngor weld os oes unrhyw rwystrau neu gyfleoedd eraill i geisio hwyluso'r defnydd o gerbydau trydan yn y sir.

Er mwyn sicrhau fod ein cynlluniau yn cyd-fynd gyda dyheadau pobl Gwynedd rydym ein eich annog i ddweud eich dweud:

Ymateb i'r holiadur