Taliad Cymorth Hunanynysu
Os ydi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn rhoi gwybod i chi bod rhaid hunanynysu, mae'n bosib bod gennych hawl i gymorth ariannol.
Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf isod i gyd, gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Hunan ynysu £500:
- Mae Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD) wedi dweud wrthych bod rhaid i chi hunanynysu ar, neu ar ôl 23 Hydref 2020
- Rydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- Nid yw'n bosib i chi weithio o adra a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
- Rydych yn derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd:
Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Bensiwn Credyd
- Rhieni a gofalwyr ble mae'r plentyn yn mynychu ysgol neu leoliad gofal plant (hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 8, neu hyd at 19 oed os oes gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth);
- Gofynnwyd i'r plentyn hunanynysu gan TTP neu gofynnwyd iddo hunanynysu am 10 diwrnod neu fwy gan ysgol, lleoliad gofal plant neu goleg addysg bellach o ganlyniad i achos mewn ysgol, lleoliad gofal plant neu goleg addysg bellach; Ac
- Mae rhieni neu ofalwyr yn bodloni meini prawf y prif gynllun (pwyntiau bwled 2 i 4)
Taliadau Disgresiwn
Mae hefyd yn bosib y byddwch yn gymwys i gael Taliad Disgresiwn o £500 os ydych yn bodloni'r meini prawf uchod, ond:
- Nid ydych yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau sydd wedi eu nodi uchod, ac
- Byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i beidio â gallu gweithio tra eich bod yn hunanynysu.
Gwneud cais
Mae pob cais ar gyfer un person yn unig. Rhaid i unrhyw geisiadau pellach o fewn yr un aelwyd gael eu gwneud arwahan.
Gwnewch yn siwr bod y canlynol gennych cyn dechrau'r cais.
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Cadarnhad o’r dyddiad a roddwyd gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (POD)
- Eich Cyfriflen Banc, slip cyflog neu brawf eich bod yn hunangyflogedig diweddaraf
Hysbysiad preifatrwydd