Grant Hwb Rhannu Bwyd Cymunedol
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn grant cyfalaf ar gyfer darparu offer ac adnoddau i brosiectau rhannu bwyd cymunedol. Nod y grant yw cadw bwyd bwytadwu allan o’r ffrwd wastraff, tra’n cefnogi preswylwyr y sir, ac mae unrhyw fudiad, brosiect neu grŵp cymunedol sydd yn cyflawni hyn yn gymwys i wneud cais i’r gronfa.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan hybiau bwyd am offer megis oergelli, rhewgelli, offer storio bwyd ac ati a fyddai’n eu cynhorthwyo yn y gwaith o gasglu, cludo neu ail-ddosbarthu bwyd. Rydym hefyd yn awyddus i gllywed gan brosiectau sydd yn gobeithio ehangu’r cynnig o fwyd ffresh, er engraifft trwy sefydlu oergelli cymunedol.
Byddwn yn darparu casgliadau gwastraff bwyd masnachol am ddim i brosiectau llwyddiannus, a bydd cefnogaeth ychwanegol gan swyddogion ailgylchu ar gael i o leiaf 6 prosiect llwyddiannus.
Trwy’r grant, ein gobaith yw cryfhau’r rhwydweithiau presennol trwy fuddsoddi mewn offer pwrpasol er mwyn sicrhau cyflenwadau digonol o adnoddau i gefnogi teuluoedd ac unigolion bregus.
Sut i wneud cais
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan hybiau bwyd cymunedol er mwyn derbyn offer/adnoddau storio bwyd ffres trwy lenwi’r ffurflen atodol a’i dychwelyd i’r cyfeiriad e-bost economigylchol@gwynedd.llyw.cymru erbyn 31 Ionawr 2021.
Ffurflen gais