Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
Daeth y taliad hwn i ben ar 2 Medi 2022
Close
Mae taliad untro o £500 ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn cael Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.
Mae’r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol maen nhw wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol maen nhw wedi’u hwynebu. Targedir y taliad tuag at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel.
Nid yw unigolion yn gymwys i gael y taliad os
- oes ganddynt hawl sylfaenol i gael Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn cael taliad oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
- ydynt OND yn derbyn premiwm gofalwr fel rhan o fudd-dal prawf modd fel Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Gwarantedig.
Os yw rhywun yn derbyn Lwfans Gofalwr a Phremiwn Gofalwr fel rhan o fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, maent yn gymwys i gael y taliad.
Daeth y taliad hwn i ben ar 2 Medi 2022