Ôl-ddyddio eich cais

Yn arferol bydd cais am Fudd-dal Tai yn cael ei dalu o’r dydd Llun ar ôl iddo gael ei dderbyn. Fodd bynnag, yn achlysurol, bydd rhai cwsmeriaid yn dymuno iddo gael ei dalu o ddyddiad cynharach, h.y. eisiau i ni ôl-ddyddio eu budd-dal. 

Mae ôl-ddyddio yn bosib weithiau, a hynny ond mewn amgylchiadau cyfyngedig, felly mae bob amser yn well gwneud cais cyn gynted ag sydd bosib. Er enghraifft, peidiwch ag oedi am nad ydych yn gallu cael y dystiolaeth angenrheidiol. Anfonwch y cais i ni, gan ddarparu’r dystiolaeth nes ymlaen, ond gan ofalu darparu'r dystiolaeth o fewn mis.

Os ydych angen i ni ôl-ddyddio eich budd-dal, mae’r rheolau ynglŷn â phryd y cawn ôl-ddyddio yn wahanol i wahanol grwpiau o bobl. Mae’n dibynnu os ydych wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth. Gellir gweld y dyddiad y byddwch yn cyrraedd yr oedran cymhwyso ar wefan y Llywodraeth. Edrychwch am y dyddiad y byddwch yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn, dim y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

  • Cwsmeriaid oed Credyd Pensiwn (sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd  Pensiwn y Wladwriaeth)  - gellir ôl-ddyddio Budd-dal Tai iddynt hyd at dri mis cyn dyddiad eu cais. Os oedd eich amgylchiadau'r un fath dri mis cyn i chi wneud y cais ag yr oeddynt pan wnaethoch y cais, cysylltwch â ni i drafod ôl-ddyddio.
  • Cwsmeriaid oed gwaith (heb gyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd  Pensiwn y Wladwriaeth) – gellir ôl-ddyddio Budd-dal Tai hyd at un mis cyn dyddiad eu cais o 1 Ebrill 2016 ymlaen.

Fodd bynnag, ac yn wahanol i geisiadau oed pensiwn, bydd raid i chi ddangos fod gennych reswm da dros beidio gwneud cais ynghynt. Mae hyn yn cael ei alw’n “good cause” (achos da) o fewn y rheoliadau perthnasol. 

Mae’n ofynnol arnoch chi i ddangos fod gennych achos da drwy gydol y cyfnod rydych yn gofyn i ni ôl-ddyddio. Nid oes raid i’r rheswm fod yr un fath drwy gydol y cyfnod.

Dyma rai o’r rhesymau y gellid eu defnyddio i ddangos “achos da” 

  • Roeddech mor wael (corfforol neu feddyliol), neu’n methu gweithredu am ryw reswm arall, nad oeddech yn gallu gwneud cais neu ofyn i rywun arall wneud cais ar eich rhan.
  • Eich bod wedi derbyn cyngor drwg neu anghywir am fudd-daliadau gan rywun y dylech allu dibynnu arnynt i roi cyngor cywir, megis y Cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu asiantaeth cynghori.
  • Yr oedd gennych reswm da dros gredu na allech hawlio
  • Roedd rhywbeth nad oedd gennych unrhyw reolaeth drosto yn eich atal rhag gwneud cais, megis streic bost neu eich bod yn y carchar.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, dim ond rhestr o'r mathau mwyaf cyffredin o resymau. Bydd disgwyl i chi egluro eich rhesymau yn llawn gan roi tystiolaeth i gefnogi'r hyn a ddywedwch wrthym.

Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, yna cysylltwch â ni i drafod.