Ydych chi eisiau helpu?
Gwaith dros dro gyda Chyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am bobl sydd ar gael i weithio dros dro i helpu i gynnal gwasanaethau i bobl fregus.
Os ydych yn debygol o fedru helpu cysylltwch â ni drwy e-bostio / ffonio:
Gwirfoddoli yn eich cymuned
Banc Gwirfoddoli Mantell Gwynedd
Mae nifer o grwpiau lleol a chymunedol yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn gyfaill, i helpu siopa bwyd a nwyddau angenrheidiol i drigolion sy’n gorfod aros yn eu cartrefi.
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli yn eich cymuned, cofrestrwch â:
Banc Gwirfoddoli Mantell Gwynedd
Cychwyn grŵp cyfeillio lleol
Efallai y byddwch chi’n gallu sefydlu Cynllun Cyfaill i’ch pentref.
Mae’r Cyngor a Mantell Gwynedd wedi cydweithio i ddatblygu Canllaw i Grwpiau Cymunedol sy’n sefydlu trefniadau lleol ar gyfer cefnogi trigolion bregus.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Cyngor ar 01766 771000 a gofyn am y Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau.
Canllawiau pellach ar gyfer grwpiau gwirfoddol gan y CGGC (WCAV)
Gair o ddiolch
Dymuna Cyngor Gwynedd ddiolch i’r holl bartneriaid, trigolion a busnesau sydd yn dod ynghyd i gefnogi trigolion bregus ein cymunedau ni.