Twyll
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw eich hun, a’r bobl fregus o’ch cwmpas, yn ddiogel yn ystod yr amser yma.
Yn anffodus, rydym yn gwybod fod rhai yn defnyddio’r firws i dwyllo’r cyhoedd a sefydliadau mewn nifer o ffyrdd. Mae’n bwysig eich bod yn dileu unrhyw ebyst neu negeseuon testun am y firws nad ydych yn eu hadnabod, ac nad ydych yn rhannu eich manylion personol nac ariannol gydag unrhyw un nad ydych yn eu hadnabod yn dda.
Er mwyn gwarchod eich hun rhag cael eich twyllo:
- Gofynnwch i bobl sy’n agos atoch helpu gyda’ch siopa os yn bosib (teulu, ffrind, cymydog). Os oes rhaid gofyn i rywun nad ydych chi’n adnabod yn dda, gofynnwch am gymaint o wybodaeth amdanynt a sy’n bosib (pwy ydyn nhw, lle maen nhw’n byw, rhif cofrestru eu car ayb)
- Gwnewch eich siopa ar-lein neu archebu a thalu’n syth gyda siop leol os yn bosib, fel mai dim ond danfon y nwyddau y bydd angen i rywun wneud ar eich rhan.
- Peidiwch a rhoi eich llyfrau pensiwn neu fanylion banc i unrhyw un nad ydych yn eu adnabod erstalwm
- Peidiwch a gadael neb i mewn i’ch tŷ os nad ydych chi’n eu adnabod neu wedi trefnu apwyntiad o flaen llaw. Cofiwch sicrhau nad yw unrhyw un sy’n dod i’ch tŷ yn sâl o gwbl.
'Golchi dwylo rhag sgamiau Coronafeirws!'