Coronafeirws (Covid-19): Treth Cyngor
Os yn bosib, dylai trethdalwyr dalu eu Treth Cyngor fel arfer.
Oherwydd y cyfnod argyfwng presennol cafodd pob gweithred adennill ar filiau heb eu talu ei atal am gyfnod o dri mis (Ebrill - Mehefin). Roedd hyn er mwyn rhoi cyfle i unigolion drefnu eu materion ariannol, a chael cyfle i wneud cais am unrhyw gymorth perthnasol.
Erbyn hyn, mae’n rhaid i ni ail edrych ar y sefyllfa ac mae angen hysbysu o symiau sydd nawr yn ddyledus er mwyn gofyn am daliad neu dod i drefniant.
Mae hefyd linc isod ar gyfer gwneud cais am drefniant ar Dreth Cyngor eleni, neu sut i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth fel arall.
Mae yna hefyd fanylion am ostyngiadau a chymorth pellach a all fod yn berthnasol i chi.
Newid trefniant talu
Os ydych angen trefniant talu gwahanol i’r bil sydd wedi ei anfon atoch, gallwch wneud cais drwy lenwi ein ffurflen ar-lein:
Gwneud cais am drefniant talu Treth Cyngor 2020-21
Gostyngiadau a chymorth pellach
Os nad oes gennych incwm ar hyn o bryd, mae’n bosib eich bod yn gymwys am Ostyngiad Treth Cyngor (budd-dal). Gallwch wneud cais yma:
Gwneud cais gostyngiad Treth Cyngor
Cyngor pellach
Mae amryw o ddisgowntiau ac eithriadau eraill ar gael all fod yn berthnasol i chi. Rhagor o wybodaeth.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru