Gall y trefniadau canlynol gael ei haddasu ar fyr rybudd er mwyn ymateb i sefyllfa leol neu ymlediad Covid-19. Byddwn yn cydymffurfio gyda chanllawiau cenedlaethol ac arweiniad arbenigol.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol i oedolion a phlant yn parhau i unigolion a theuluoedd fydd angen cefnogaeth frys, a chefnogaeth statudol. Byddwn yn ymdrin â unrhyw faterion eraill dros y ffôn a/neu drwy gyfrifiadur, gan gynnwys asesiadau a chyswllt pellach gydag unigolion a theuluoedd.
Byddwn yn ystyried os bydd angen ymweliad personol ar unrhyw un sy’n ein ffonio, neu os bydd modd cynnig cefnogaeth mewn ffordd wahanol.
Canolfannau Gofal Dydd
Mae’r gwasanaeth Gofal Dydd i oedolion yn ein canolfannau pobl hyn wedi dirwyn i ben dros dro, hyd nes bydd y sefyllfa’n gwella.Mae cymorth i bobl ag anableddau yn cael ei ystyried yn unigol.
Cartrefi Preswyl i’r Henoed
Ar hyn o bryd mae yn bosibl trefnu apwyntiad i ymweld a chartref preswyl. Mae mesurau ychwanegol mewn lle i sicrhau bod modd gwneud hynny yn ddiogel. Gellir trafod y mesurau hynny a unrhyw amgylchiadau lleol drwy gysylltu a’r cartrefi yn unigol. Rydym wedi ceisio cyfyngu ar ymweliadau eraill hefyd ond canitatier i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ymweld pan fo hynny’n briodol. Byddwn yn ceisio hwyluso cyswllt mewn ffyrdd eraill gan ddefnyddio cyfryngau newydd.
Gwasanaeth Gofal Cartref
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnal y gwasanaeth gofal cartref, ond bydd angen i ni ganolbwyntio ymdrechion y gwasanaeth ar yr unigolion mwyaf anghenus a bregus yn y gymdeithas, sef y bobl hynny sydd â chyflyrau dwys, a’r rhai sydd heb deulu neu gymdogion i’w helpu.
Am gyfnod, mae’n bosib na fydd rhai o’r gwasanaethau sy’n arfer cael eu darparu gan ofalwyr cartref ar gael neu bydd rhai addasu trefniadau. Gofynnwn i deuluoedd helpu cymaint â phosib yn ystod y cyfnod yma.