Proffiliau iaith ardaloedd a Phoblogaeth

Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 65.4% o drigolion Gwynedd yn siaradwyr Cymraeg.

Mae amrywiaeth eang iawn yn y nifer o bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd ar draws y sir, gyda’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn hanu o ardaloedd Llanrug (87.8%) a Peblig yng Nghaernarfon (87.4%).

Mae'r canrannau yn gostwng wedyn wrth fynd i gyfeiriad dinas Bangor (36.4% o siaradwyr Cymraeg) a’r ardaloedd arfordirol, yn enwedig ar hyd arfordir Meirionnydd, gyda 35.5% o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Aberdyfi.

Mae mwy o ystadegau am sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd i’w gweld isod:

 

Poblogaeth

Mae’r atodiadau sy’n cael eu rhestru isod yn cynnwys data am bobl yng Ngwynedd a’r wardiau sy’n rhan o’r sir gan gynnwys gwybodaeth am boblogaeth, dwysedd poblogaeth, genedigaethau a marwolaethau.


Gwybodaeth bellach

 Ar-lein: ffurflen ymholiadau
 E-bost: ymchwil@gwynedd.llyw.cymru
 Ffôn: 01286 679619