Mae cyflogadwyedd yn derm ymbarel am yr holl bethau sy'n cynyddu siawns pobl o gael swydd neu symud ymlaen mewn gyrfa. Mae rhai pobl yn gweld hyn yn anoddach nag eraill.
Mae Gwaith Gwynedd yn cydweithio gyda phartneriaid i helpu'r bobl hyn i symud ar hyd 'Llwybr Cyflogadwyedd'.
Mae'r Llwybr Cyflogadwyedd yn nodi'r camau cymorth y gallai unigolyn eu cymryd i sicrhau cael eu cyflogi. Mae'r Llwybr yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith; sydd â rhwystr i gyflogaeth, ac sydd gan botensial i symud i gyflogaeth gynaliadwy neu hunangyflogaeth. Gall gyfranogwyr dderbyn cefnogaeth ar bob cam os oes angen, neu ddechrau eu taith nes ymlaen yn y llwybr.