Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i ti?
Mae prentisiaeth yn gyfle i ti ddatblygu dy yrfa drwy weithio gyda pobl profiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!
Does dim swyddi prentis yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd, ond cadw lygaid am gyfleoedd yn fuan.
Pwy all fod yn Brentis?
Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth os ydynt yn ateb y gofynion isod:
- 16+ mlwydd oed
- Yn gymwys i weithio yng Nghymru
- Ddim mewn addysg llawn amser yn barod
Pa lefel prentisiaeth fyddai'n addas i mi?
Mae’r lefel prentisiaeth byddi’n ei ddewis yn ddibynnol ar dy sgiliau a chymwysterau presennol. Cymer olwg ar y tabl isod i weld pa lefelau sydd ar gael!
Teitl
|
Lefel
|
Yn gyfwerth â
|
Hyfforddeiaeth
|
Lefel 1
|
TGAU D - G
|
Prentisiaeth Sylfaen
|
Lefel 2
|
TGAU A* - C
|
Prentisiaeth
|
Lefel 3
|
Lefel A
|
Prentisiaeth Uwch
|
Lefel 4 a Lefel 5
|
HNC / HND / Gradd Sylfaen
|
Prentisiaeth Gradd
|
Lefel 6 a Lefel 7
|
Gradd / Gradd Meistr
|
Beth yw’r manteision o ddilyn prentisiaeth?
Mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth i ti ddilyn llwybr prentisiaeth:
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol
- Cwblhau cymwysterau o werth
- Datblygu llwybrau gyrfa clir
Yn ogystal â hyn mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth weithio i Gyngor Gwynedd:
- Byddi’n gweithio mewn awyrgylch Gymreig.
- Bydd cyfle i ti fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Bydd gen ti 24.5 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 8 diwrnod o wyliau banc / gwyliau cyhoeddus.
- Byddi’n rhan o'n Cynllun Oriau Ystwyth.
- Byddi’n elwa o ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol.
Beth yw cyflog prentis?
Bydd y prentis yn derbyn cyflog sy’n unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Cyflog prentis
Prentis (oed) | Graddfa / awr | Cyflog / flwyddyn |
O dan 18 |
£4.55 |
£8,778.22 |
18 - 20 |
£6.45 |
£12,443.86 |
21 - 24 |
£8.20 |
£15,820.10 |
25+ |
£8.72 |
£16,823.32 |
Cwestiynau cyffredin eraill
Beth ydi’r gofynion sylfaenol?
Bydd gofynion sylfaenol y swydd yn ddibynnol ar lefel y Brentisiaeth. Bydd rhain wedi eu hamlinellu yn Manylion Person y Swydd.
Oes yna gyfyngiad o ran oedran?
Nac oes, ond mae pobl ifanc rhwng 16 i 19 oed yn cael blaenoriaeth.
Beth fydd hyd y brentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn cymryd rhwng 12 a 36 mis i gwblhau, yn dibynnu ar y gofynion penodol y cymwysterau a lleoliadau.
Ble fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal?
Cewch eich rhyddhau o’r gwaith, i astudio mewn Coleg neu Brifysgol neu byddwch yn dilyn rhaglen dysgu o bell, os yw'r ddarpariaeth yn y gweithle yn unig.
Fel prentis, pa gymhwyster fydda i yn ei ddilyn?
Bydd hyn yn dibynnu ar y brentisiaeth byddi di’n ei ddewis. Mae fframweithiau Prentisiaethau yn cynnwys cymwysterau o bob lefel.
Cofrestru dy ddiddordeb
Beth bynnag yw dy faes diddordeb, mae posib cofrestru i fod ar ein rhestr e-bost i dderbyn mwy o wybodaeth yn y dyfodol ar ddatblygiadau neu gyfleoedd.
Mi liciwn i dderbyn e-byst
Cysylltu â ni
Os oes ganddoch chi ymholiad, e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Neu, am sgwrs anffurfiol, ffoniwch 01286 679 599.