Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i chi?
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd.
Mae prentisiaeth yn gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!
Prentis Anableddau Dysgu Cartrefi Preswyl
Prentis Anableddau Dysgu Cefnogi Gwasanaeth
Prentis Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata
Close
Pwy all fod yn Brentis?
Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth os ydynt yn ateb y gofynion isod:
Pa brentisiaeth fyddai yn addas i fi?
Mae’r lefel prentisiaeth byddwch yn ei ddewis yn ddibynnol ar eich sgiliau a chymwysterau presennol. Cymerwch olwg ar y tabl isod i weld pa lefelau sydd ar gael!
Teitl
|
Lefel
|
Yn gyfwerth â
|
Hyfforddeiaeth
|
Lefel 1
|
TGAU D - G
|
Prentisiaeth Sylfaen
|
Lefel 2
|
TGAU A* - C
|
Prentisiaeth
|
Lefel 3
|
Lefel A
|
Prentisiaeth Uwch
|
Lefel 4 a Lefel 5
|
HNC / HND / Gradd Sylfaen
|
Prentisiaeth Gradd
|
Lefel 6 a Lefel 7
|
Gradd / Gradd Meistr
|
Beth yw’r manteision o ddilyn prentisiaeth?
Mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth i chi ddilyn llwybr prentisiaeth:
-
Ennill cyflog wrth ddysgu
-
Derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol
-
Cwblhau cymwysterau o werth
-
Datblygu llwybrau gyrfa clir
Yn ogystal â hyn mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth weithio i Gyngor Gwynedd:
-
Gweithio mewn awyrgylch Gymreig.
-
Bydd cyfle i chi fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
-
Bydd gennych chi 24.5 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 8 diwrnod o wyliau banc / gwyliau cyhoeddus.
-
Byddwch chi’n rhan o'n Cynllun Oriau Ystwyth.
-
Byddwch chi’n elwa o ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol.
Beth yw cyflog prentis?
Bydd y prentis yn derbyn cyflog sy’n unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Cyflog prentis
Prentis (oed) | Graddfa / awr | Cyflog / flwyddyn |
O dan 18 |
£4.55
|
£8,778.22
|
18 - 20 |
£6.45
|
£12,443.86
|
21 - 24 |
£8.20
|
£15,820.10
|
25+ |
£8.72
|
£16,823.32
|
Cwestiynau cyffredin eraill
Beth ydi’r gofynion sylfaenol?
Oes yna gyfyngiad o ran oedran?
Beth fydd hyd y brentisiaeth?
Ble fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal?
Fel prentis, pa gymhwyster fydda i yn ei ddilyn?
Cofrestrwch eich diddordeb
· Beth bynnag yw eich maes diddordeb, mae posib cofrestru i fod ar ein rhestr e-bost i dderbyn mwy o wybodaeth yn y dyfodol ar ddatblygiadau neu gyfleoedd.
Mi liciwn i dderbyn e-byst
· Cysylltwch â ni
Os oes ganddoch chi ymholiad, e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Neu, am sgwrs anffurfiol, ffoniwch 01286 679 599.
A chofiwch ein dilyn ni ar Instagram!