Asesiadau ac Arfarniadau

Yr Adroddiad Cwmpasu

Roedd yr Adroddiad Cwmpasu’n cynrychioli cam cyntaf yr Arfarniad Cynaladwyedd.  Ymgynghorodd Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd ar yr Adroddiad Cwmpasu AC am gyfnod o 7 wythnos rhwng 21/7/11 a 8/9/11. 

 

Adroddiad Arfarniad Cynaladwyedd Cychwynnol

Y cam nesaf oedd cynhyrchu Adroddiad Arfarniad Cynaladwyedd Cychwynnol. Roedd yr adroddiad hwn yn egluro sut ‘roedd yr arfarniad wedi ei ymgymryd ag ef a sut ‘roedd y broses wedi cynorthwyo wrth ddatblygu Hoff Strategaeth y CDLl ar y Cyd gan gynnwys y weledigaeth, amcanion strategol a pholisïau strategol.

Roedd yr adroddiad yn cofnodi’r holl waith gwerthuso a gyflawnwyd hyd hynny.  Roedd yr Adroddiad Arfarniad Cynaladwyedd Cychwynnol yn destun cyfnod ymgynghori ar y cyd a’r ddogfen Hoff Strategaeth. Cafodd Grynodeb Anhechnegol (2013) o'r ddogfen ei pharatoi yn ogystal.

Gellir gweld yr Adroddiad Arfarniad Cynaladwyedd o’r Cynllun Adneuo a'r Crynodeb Anhechnegol (2015) yma

Mewn cydymffurfiaeth ag anghenion y Cyfarwyddeb AS ac arweiniad ar gyfer Arfarniad Cynaliadwyedd, mae rhaid i’r Cynghorau ymgynghori â dau gorff ymgynghori statudol (CADW ac Adnoddau Cyfoeth Cymru) ynghyd â budd-ddeiliaid eraill a’r cyhoedd ar gynnwys yr Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Cychwynnol.


Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

O dan Rheoliad 48 o’r Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) 1994, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ystyried effeithiau posib y Cynllun ar safleoedd Natura 2000 a safleoedd Ramsar.  Gelwir y broses hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC).

Prif fwriad y Rheoliadau yw penderfynu, wrth ystyried amcanion cadwraeth a nodweddion ‘cymwys’ y safleoedd, os yw Cynllun, naill ai ar ben ei hun a/neu mewn cyfuniad a chynlluniau eraill yn debygol o gael ardrawiad andwyol ar y safleoedd Ramsar a Natura 2000, a chan hynny, os fyddai’n angenrheidiol cynnal Asesiad Priodol llawn ohono.

Cyn ymgymryd ag Asesiad Priodol llawn, roedd yn ofynnol yn gyntaf sgrinio’r cynllun er mwyn darganfod os oes angen cynnal Asesiad o’r fath. Roedd adroddiad sgrinio yn nodi cam cyntaf o’r broses ARhC. 

Mae Adroddiad ArhC wedi gael ei gynhyrchu er mwyn pennu os yw polisïau a chynigion yn y cynllun adnau yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safleoedd Ewropeaidd, unai ar ben eu hunain neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill ac os oes angen ymgymeryd ag Asesiad Priodol ai peidio.


Asesiad Effaith Iaith Gymraeg (AEIG)

Mae’r iaith Gymraeg yn elfen annatod o wead cymunedau yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac mae’n adlewyrchiad o’u traddodiadau a’u diwylliant.  Gall datblygiad gael effaith ddifrifol ar hyfywdra’r iaith Gymraeg.  Drwy ymgymryd ag Asesiad Ardrawiad Ieithyddol o’r CDLl ar y Cyd, fe fydd unrhyw effaith andwyol sy’n deillio o ddatblygiad yn cael eu minimeiddio a’u lliniaru.  Dylid nodi bod y fethodoleg AEIG yn broses oddrychol sy’n bwriadu sefydlu’r effeithiau tebygol a ddaw yn sgil cynnig neu bolisi datblygu. Mae AEIG o'r Cynllun Adnau wedi cael ei ymgymryd.


Asesiad Effaith Cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud Asesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC) o rai dogfennau yn ofyn cyfreithiol. Mae Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn declyn sy’n cynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau nad yw’r Cyngor yn gwahaniaethu, yn hyrwyddo cydraddoldeb ble bynnag y bo modd ac yn meithrin perthnasau cymunedol da.   Mae cynnal AEC yn cynnwys asesu effeithiau tebygol polisïau ar bobl o ran anabledd, rhyw, hil, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ail-aseiniad rhyw a chrefydd neu gred.  Ble bo’n berthnasol, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn gofyn i ni ystyried priodasau a phartneriaethau sifil, ynghyd â mamolaeth a beichiogrwydd.

Gan fod y CDLl ar y Cyd yn gynllun defnydd tir, mae ei effaith ar gydraddoldeb hefyd yn gysylltiedig â mynediad at wasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd. Yn sgil ei botensial i effeithio ar grwpiau ac unigolion penodol, penderfynwyd cynnal AEC o’r Cynllun i sicrhau nad yw’r CDLl ar y Cyd yn gwahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol ac adnabod y cyfraniad positif mae’r CDLl ar y Cyd yn ei wneud at y rhaglen cydraddoldeb.  Mae yna AEC o’r Cynllun Adnau wedi ei gynnal.


Asesiad Effaith Iechyd

Mae’r AEI yn declyn y gellir ei ddefnyddio i asesu effaith iechyd datblygiad ffisegol, newid arfaethedig i gyflwyniad gwasanaeth neu bolisi neu strategaeth. Gall rhai o’r effeithiau fod yn bositif, a rhai eraill yn fwy niweidiol.  Y nod yw cael gwared ag unrhyw effeithiau negatif posib ar iechyd a lles pobl, neu eu lliniaru, ac i uchafu’r cyfleoedd i helpu pobl i wella’u hiechyd. Mae AEI o’r Cynllun Adnau wedi ei gynnal.