Gwynedd Werdd

Mae gan Gyngor Gwynedd weledigaeth y bydd Gwynedd yn ffynnu yn y dyfodol - gyda chymunedau cynaliadwy llewyrchus sy’n flaengar yn economaidd ac yn gymdeithasol, ble bydd yr iaith Gymraeg yn ganolog i’w ffyniant a ble bydd pobl o bob oed yn gallu manteisio ar gyfleoedd newydd a dewis aros yn yr ardal i fyw a gweithio.

Datblygwyd Gwynedd Werdd fel rhan o becyn o raglenni er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon. Mae Gwynedd Werdd wedi astudio’r posibilrwydd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy wneud y mwyaf o’r adnoddau naturiol ar draws y sir. Mae hyn wedi ein galluogi i ddeall:

  • pa adnoddau sydd ar gael ac ym mhle y maent wedi’u lleoli?
  • beth yw’r buddion economaidd pe byddwn yn defnyddio’r potensial hwn?
  • a beth yw’r rhwystrau sy’n rhaid eu goresgyn er mwyn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael?

Mae Astudiaeth Sgopio Gwynedd Werdd wedi amlygu'r posibilrwydd o ddefnyddio dros 110 megawat erbyn 2020. Gallai hyn greu hyd at 160 o swyddi a rhoi £16m i mewn i’r economi leol. 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn, mae Gwynedd Werdd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Garbon Cymru, ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth bellach ynglŷn â safleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni hydro-electrig ac mae gwaith ar fin ei orffen ar ddatblygu cadwyn gyflenwi gynaliadwy lleol ar gyfer tanwydd coed. Rydym yn gweithio â Phrifysgol Bangor a grŵp cymunedol YnNI Llŷn ym Mhen Llŷn er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r adnodd llanw ym mhen draw’r penrhyn.

Mae Gwynedd Werdd ochr yn ochr ag Ynys Ynni Môn hefyd yn gweithio gyda cholegau lleol er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant sydd ei angen i wneud y mwyaf o ynni adnewyddadwy ar gael.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: