Archwiliad Annibynnol

Manylion

Archwiliad Y CDLL

Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn ar 29 Ionawr 2016, cyflwynwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd (CDLl ar y cyd) i Lywodraeth Cymru i'w Archwilio o dan adran 64(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Dyma gopi o’r Datganiad.

Bydd Archwiliad y CDLl ar y cyd yn cael ei wneud gan Arolygydd Annibynnol o’r Arolygiaeth Cynllunio a fydd yn penderfynu os yw'r Cynllun yn 'gadarn'.  Bydd yr Arolygydd yn asesu cadernid y CDLl ar y cyd yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ystyried gwrthwynebiadau unigol, a bydd yn seilio ei farn ar y dystiolaeth sydd ar gael, y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau penodol y CDLl ar y cyd a'r ardal. Fe dderbyniodd yr Arolygiaeth Cynllunio y dogfennau cyflwyno yn llawn ar 18 o Fawrth 2016.

 

Arolygydd Cynllunio

Mae’r Arolygiaeth Cynllunio wedi penodi yr Arolygwyr canlynol i gynnal yr archwiliad annibynnol:

Mr Hywel Wyn Jones BA (Hons), BTP, MRTPI

Mr Richard Duggan BSc (Hons) DipTP, MRTPI

 

Swyddog Rhaglen

Mae’r Archwiliad yn cael ei weinyddu gan y Swyddog Rhaglen sydd yn gweithio o dan arweiniad yr Arolygwyr ac yn annibynnol o’r Cyngor.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Archwiliad ac/neu unrhyw ohebiaeth i sylw’r Arolygwyr i’r Swyddog Rhaglen.

Manylion cyswllt:

Llyfrgell yr Archwiliad 

Bydd y dudalen yma yn eich diweddaru ar gynnydd y CDLl ar y Cyd fel mae’n symud drwy’r cam Archwilio.  Bydd y dudalen yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd fel y byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth.

Mae'r dogfennau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gael i’w harchwilio isod neu drwy apwyntiad yn unig gyda’r Swyddog Rhaglen.

Statws
  • Cyflwyno’r CDLl i’r Llywodraeth – Mawrth 2016
  • Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad – 14eg Mehefin, 2016

    Cyn i sesiynau Gwrandawiadau’r Archwiliad gychwyn, fe fydd Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad yn cael ei gynnal ar 14 Mehefin 2016 i drafod rheolaeth yr Archwiliad. Bydd y cyfarfod yma yn cael ei gynnal yn Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH, gan gychwyn 10.30yb. Bydd y cyfarfod yma yn helpu’r Arolygydd a phawb arall sydd gan ddiddordeb yn yr Archwiliad baratoi ar ei gyfer, ac fe fydd yr Arolygydd yn amlinellu sut fydd yr Archwiliad yn cael ei gynnal a’r dulliau gweithredu a fydd angen eu dilyn. Mae’n bwysig bod pawb sydd yn dymuno bod yn rhan yn yr Archwiliad, yn enwedig y rheini sydd yn bwriadu bod yn rhan o’r sesiynau gwrandawiadau, yn mynychu’r cyfarfod. Mae’r Canllawiau am y broses Archwiliad i’w gweld yn Llyfrgell yr Archwiliad (Dogfen rhif PCC59 – “Archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol – Canllaw Gweithdrefnol”), a bydd Rhaglen ar gyfer y Cyfarfod Cyn-Gwrandawiad ar gael yn fuan ar wefan yr Archwiliad.
    Bydd angen hysbysu'r Swyddog Rhaglen erbyn 27 Mai 2016 os ydych yn bwriadu mynychu’r cyfarfod cyn-gwrandawiad. 

  • Gwrandawiadau - Medi 2016 

    Bwriedir dechrau’r Sesiynau Gwrandawiadau ar 6 Medi 2016 am bum wythnos hyd at 6 Hydref 2016 gydag un toriad. Dyma gopi o’r Hysbysiad sy’n cadarnhau cychwyn y Sesiynau Gwrandawiadau. Bydd manylion cyfoes am y Sesiynau Gwrandawiadau (gan gynnwys y rhaglen o faterion a phynciau) i'w gweld/ llwytho i lawr o’r dudalen gwe a welir uchod ar gyfer y Sesiynau Gwrandawiadau.

  • Newidiadau Materion sy’n Codi – Ionawr 2017

    Mae'r Cynghorau yn ymgynghori ar nifer o newidiadau arfaethedig i'r Cynllun sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r materion sy'n deillio o Sesiynau Gwrandawiad yr Archwiliad. Gelwir y rhain yn Newidiadau Materion sy'n Codi (NMC). Mae copïau o'r Gofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi (ynghyd ag atodiadau cysylltiedig i'r Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a fersiwn Cyfansawdd o'r Cynllun, sy’n cynnwys y NMC) ar gael i'w gweld o 26 Ionawr 2017 tan hanner nos 9 Mawrth 2017. Mwy o fanylion am yr ymgynghoriad cyhoeddus. 

    Anfonir holl sylwadau ar y Gofrestr Newidiadau Materion sy'n Codi i'r Arolygydd eu hystyried. 

    Os bydd yr Arolygydd yn penderfynu bod gofyn cael gwrandawiadau ychwanegol, caiff y rhain eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24 Ebrill 2017.

  •  Gwrandawiadau pellach

    Fe wnaeth yr Arolygydd gynnal gwrandawiadau pellach i drafod Newidiadau Materion a Godwyd ar 26 a 27 Ebrill 2017 yn Swyddfa Penrallt, Cyngor Gwynedd, Caernarfon.
    Gweld sesiynnau gwrandawiadau, sesiwn 17 a 18.

  • Adroddiad yr Arolygwr 

    Yn dilyn cwblhau’r Archwiliad, bydd yr Arolygwyr yn gyrru Adroddiad i’r Cynghorau a fydd yn manylu ar newidiadau y mae’n rhaid i’r Cynghorau eu gwneud i’r Cynllun a darparu braslun o’r rhesymau dros eu gwneud. Bydd yr argymhellion a wneir yn Adroddiad yr Arolygwyr yn rhwymol, a bydd yn rhaid i’r Cynghorau dderbyn y newidiadau fydd yn cael eu hargymell gan yr Arolygwyr. 
    Derbyniwyd yr Adroddiad ar gyfer y broses wirio ffeithiol ar 16 Mehefin 2017. Ar ôl cwblhau’r broses wirio ffeithiol, derbyniwyd yr Adroddiad terfynol ar 30 Mehefin 2017. Gellir gweld yr Adroddiad yma.