Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Diwygiedig
Rydym yn cychwyn ar y broses o adolygu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae’n rhaid i ni adolygu’r Cynllun pob pedair blynedd a pharatoi Cynllun Diwygiedig. Gan fod y Cynllun presennol wedi ei fabwysiadu ar 31 Gorffennaf 2017, rydym wedi paratoi Adroddiad Adolygu.
Mae’r Adroddiad Adolygu yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn. Nid yw’n yn manylu ar unrhyw newidiadau y bydd yn cael eu gwneud i’r Cynllun.
Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 5 Tachwedd hyd at 20 Rhagfyr 2021.
Cytunodd y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar y 3 Mawrth 2022 i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu a’i gyflwyno i Llywodraeth Cymru.
Mae’r Adroddiad Adolygu ar gael i’w lawrlwytho:
Adroddiad Adolygu: Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn (Mawrth 2022)
Ymhellach mae posib archwilio copi caled o’r ddogfen yn Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau.
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd mewn perthynas â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, cysylltwch â’r Gwasanaeth gan ddefnyddio’r manylion uchod i gael cynnwys eich manylion ar ein basdata cysylltiadau.