Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23
Pwrpas y Cynllun yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2018 a diwedd Mawrth 2023. Mae’n dangos pam ein bod am ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau mewn rhai meysydd, ond hefyd yn rhoi darlun o holl waith dydd i ddydd y Cyngor.
Bydd y Cynllun yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor, sef:
Ein uchelgais yw gweld pob cymuned yng Ngwynedd yn ffynnu, a’n bod fel pobl yn...
- Mwynhau bywyd hapus, iach a diogel
- Derbyn addysg o’r radd flaenaf fydd yn caniatáu i ni wneud yr hyn y dymunwn ei wneud
- Ennill cyflog digonol i ni fedru cynnal ein hunain a’n teuluoedd
- Cael byw mewn cartrefi o ansawdd o fewn ein cymunedau
- Cael byw mewn cymdeithas naturiol Gymraeg
- Cael byw gydag urddas ac yn annibynnol gyhyd ag sy’n bosib
- Cael manteisio ar harddwch naturiol y sir
Yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r rhain yn Amcanion Llesiant. Cyhoeddodd y Cyngor ei Ddatganiad Llesiant gydag adolygiad 2019/20 o Gynllun y Cyngor, ac mae i’w weld drwy ddilyn y ddolen isod:
Datganiad Llesiant Cyngor Gwynedd
Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu’n wreiddiol gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2018, ond mae hi’n ddogfen fyw sy’n datblygu dros amser. Rydym yn ei hadolygu’n flynyddol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i wneud y pethau sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
Rydym bellach wedi adolygu’r Cynllun er mwyn datgan beth fydd y Cyngor yn bwriadu ei gyflawni yn ystod 2020/21, sef y drydedd flwyddyn i mewn i’r cynllun pum mlynedd. Cafodd ‘Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2020/21’ ei fabwysiadu gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2020.
Mae yna sawl elfen i’r Cynllun –
- Cynllun Cryno sy’n amlinellu ein Blaenoriaethau Gwella a’n 7 Amcan Llesiant
- Cynlluniau Adran sy’n disgrifio holl waith dydd i ddydd y Cyngor;
Mae’r elfennau unigol yma, â’r Cynllun cyfan i’w gweld isod.
Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2020/21: Y Cynllun yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys manylder am ein Blaenoriaethau Gwella, ein gwaith dydd i ddydd a’n Datganiad Llesiant.
Cynllun Cryno Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2020/21: Mae ‘Cynllun Cryno Cyngor Gwynedd 2018-2023’ yn gyflwyniad i ddogfen ehangach sef ‘Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2020/21’.
Cynlluniau Adran: Gwaith dydd i ddydd y Cyngor fesul Adran. Mae’r ddolen hon yn mynd a chi i dudalennau gwybodaeth am yr holl Adrannau – cliciwch ar enw’r Adran i weld y Cynllun a gwybodaeth bellach.
Cyhoeddiadau blaenorol:
Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (19/20)
Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (18/19)
Cynllun Strategol 2017/18
Cynllun Strategol 2016/17
Cynllun Strategol 2015/16
Cynllun Strategol 2014/15
Rhagor o wybodaeth
Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor
Adran Cefnogaeth Gorfforaethol
Swyddfa’r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
E-bost: cynlluncyngor@gwynedd.llyw.cymru
Ffôn: 01766 771 000