Strategaeth Iaith
Cynllun Hybu'r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023
Yn ei gyfarfod ar Hydref 4ydd 2018 cymeradwyodd y Cyngor Llawn y Cynllun Hybu hwn, ynghyd â rhaglen waith gychwynnol ar gyfer gweithredu ar ei flaenoriaethau,.
Caiff y cynllun ei gyhoeddi a’i weithredu fel rhan o ofynion y Safonau Iaith (Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru)2011), sydd yn gofyn i’r Cyngor lunio strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut rydym yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn y sir.
Bwriad y Cynllun hwn felly yw gosod cyfeiriad strategol clir ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg ledled Gwynedd dros y bum mlynedd nesaf. Dymuniad y Cyngor ar gyfer y tymor hir yw gweld canran siaradwyr Cymraeg Gwynedd yn cynyddu i fod uwchben y 70% unwaith eto, ond mae’n bwysig cydnabod y bydd sawl her a rhwystr ar hyd y ffordd at y nod hwn, ac felly mae’r cynllun hwn yn ceisio gosod amcanion clir a chyraeddadwy ar gyfer y tymor byr ac yn nodi’r cyfleoedd presennol sydd yna i hybu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ar draws y sir. Mae’n adlewyrchu ymrwymiadau gan y Cyngor ar draws sawl maes, o addysg, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol a gofal, i fusnesau a’r blynyddoedd cynnar, ond hefyd yn pwysleisio na all y Cyngor achosi newid mewn patrymau ieithyddol ar ei ben ei hun, a bod angen cydweithio effeithiol rhwng nifer o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn cyrraedd y nod.
Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Hybu, cysylltwch a’r Uned Iaith a Craffu ar:
01286 679469
iaith@gwynedd.llyw.cymru
Cysylltu â ni
Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Uned Iaith a Craffu:
- E-bost: iaith@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: (01286) 679452
- Cyfeiriad: Cyngor Gwynedd, Pencadlys, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Mae mwy o ystadegau am sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd i’w cael yn yr adran Ystadegau a data allweddol, ac mae proffil iaith ar gyfer wardiau’r Sir hefyd i'w gweld yn yr adran.