Y Gymraeg

Polisi Iaith

Cynradd

Yr un yw nod y Polisi Iaith ar draws holl ysgolion cynradd y sir, sef datblygu gallu pob disgybl i fod yn hyderus yn y ddwy iaith erbyn diwedd CA2. Y Gymraeg yw iaith swyddogol yr asesu yn yr ysgol ar ddiwedd CA1. Yn CA2, rydym yn parhau i ddatblygu gafael disgyblion ar y Gymraeg gan roi sylw i ddatblygu eu sgiliau yn y ddwy iaith.


Uwchradd

Yn yr uwchradd, disgwylir i bob disgybl sydd wedi cyrraedd lefel angenrheidiol, sef  3+ , ar ddiwedd CA2 ddilyn Cymraeg Iaith Gyntaf yn CA3 er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad priodol. Y gobaith yw y gall y disgyblion hyn astudio'r Gymraeg a'r Saesneg fel pynciau hyd at ddiwedd Blwyddyn 11.  Mae ysgolion uwchradd yn adeiladu ar y sylfaen a osodwyd yn y cynradd trwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg. 


Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn derbyn cyfle cyfartal ieithyddol o safbwynt addysg ddwyieithog.

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael ar gyfer yr holl ystod ac amrywiaeth o ADY. Mae gan ddisgyblion a’u rhieni fynediad i wasanaeth sydd yn gwbl ddwyieithog.

 

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gyhoeddi ail Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020. Mae’r Cynllun yn gosod gweledigaeth, ymrwymiad a chyfeiriad ar gyfer sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyflawni’r safonau uchaf er mwyn cynnal yr iaith, diwylliant a’r economi yn lleol. 

Mae Polisi Iaith yr Adran Addysg yn gosod y nod uchelgeisiol o sicrhau bod holl ddisgyblion y Sir yn meddu ar sgiliau ieithyddol priodol yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Cydwedda hyn yn dda gyda phrif nod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sef sicrhau datblygiad y Gymraeg fel pwnc a chyfrwng dysgu o oedran cyn-ysgol ymlaen, yn ogystal â hyrwyddo’r defnydd a wna ein plant a’n pobl ifanc o’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol.

Mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i wireddu holl nodau ac amcanion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac yn sgil hynny gefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan sicrhau bod cyfleoedd ar bob cyfnod ym mywyd unigolyn i ddysgu Cymraeg ac i ddysgu drwy’r Gymraeg. 

Fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd y nod yma, ac i ategu’r weledigaeth a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i gefnogi a hyrwyddo gweithrediad y Siarter Iaith ymhob un o ysgolion cynradd y sir er mwyn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. 

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn cefnogi’r Strategaeth Iaith Uwchradd sydd yn rhoi arweiniad clir i’n hysgolion uwchradd am dechnegau newid arferion iaith a’r gwahanol ffyrdd o ddylanwadu ar iaith gymdeithasol disgyblion y tu mewn a thu allan i’r ysgol, gan arwain at gynnydd pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. 

 

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Strategaeth Iaith Uwchradd

Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yng Ngwynedd, mae gwaith arloesol wedi digwydd yn ein hysgolion cynradd i ddylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Er mwyn sicrhau dilyniant cadarn i’r Siarter, mae’n bleser gennym gyflwyno Strategaeth Iaith Uwchradd fydd yn rhoi arweiniad clir i’n hysgolion uwchradd am dechnegau newid arferion iaith a’r gwahanol ffyrdd o ddylanwadu ar iaith gymdeithasol disgyblion y tu mewn a thu allan i’r ysgol. 

Lluniwyd y Strategaeth hon dan arweiniad Carys Lake, Arweinydd Canolfan Iaith Uwchradd Gwynedd a chyda chydweithrediad gweithgor o benaethiaid a dirprwyon uwchradd a swyddogion Cyngor Gwynedd. Roedd y gweithgor yn cynrychioli ystod o ysgolion uwchradd sy’n amrywio o ran lleoliad daearyddol, maint, cefndir a chyd-destun ieithyddol.

Sicrhawyd mewnbwn gwerthfawr a brwd i’r Strategaeth gan ddysgwyr uwchradd o wahanol gefndiroeddieithyddol gan gynnwys Cymry cynhenid, dysgwyr rhugl a dysgwyr mwy elfennol. Bu’r ymweliadau hyn â grwpiau o ddisgyblion yn gyfle i sbydu syniadau o bob math. Roedd brwdfrydedd heintus y disgyblion hyn yn creu argraff arbennig.

Bydd cynllunio a gweithredu’r Strategaeth hon yn effeithiol yn sicrhau gweithredu cyson safonol i hyrwyddo’r Gymraeg lafar anffurfiol gan ddysgwyr ein hysgolion uwchradd. Mae’n cydnabod a mynd i'r afael â’r heriau hynny yn y maes gan gynnwys effaith a dylanwad ffactorau megis cyfryngau cymdeithasol a dylanwad masnachol byd eang. Mae’n gosod gweledigaeth glir gytunedig ac yn cynnwys llwybrau gweithredu clir sy’n cynnwys atebolrwydd i wireddu’r weledigaeth honno.

Er mwyn gweithredu’r Strategaeth hon, mae’n hanfodol bod yr holl randdeiliaid, gan gynnwys ysgolion, staff dysgu a gweinyddol, Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd, rhieni a disgyblion nid yn unig yn tanysgrifio iddi ond hefyd yn ei chofleidio fel arf fydd yn sicrhau bod Gwynedd yn arwain yn flaengar wrth gyfrannu at wireddu Cymraeg 2050.

Mae Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan sicrhau bod cyfleoedd ar bob cyfnod ym mywyd unigolyn i ddysgu Cymraeg ac i ddysgu drwy’r Gymraeg. Fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd y nod yma, gofynnwyd yn benodol i Gyngor Gwynedd gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ledaenu arferion y Siarter Iaith Cynradd ledled Cymru. Cyffrous felly yw cyhoeddi bod Cyngor Gwynedd wedi datblygu Strategaeth Iaith Uwchradd fel offeryn cynllunio effeithiol, gan adeiladu ar lwyddiant y Siarter Iaith Cynradd, ar gyfer arwain at gynnydd pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg.

 

Strategaeth Iaith Ysgolion Uwchradd Gwynedd