Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 60 o aelodau etholedig.
Bydd gan bob pleidleisiwr mewn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy bleidlais, a ddefnyddir mewn system o'r enw System Aelodau Ychwanegol. Mae'r system yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol.
Defnyddir y bleidlais gyntaf i ethol Aelod Cynulliad etholaethol ar sail y system etholiadol draddodiadol sef 'y cyntaf i'r felin', sy'n debyg i etholiad i Senedd y DU. Mae etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhannu'r un ffiniau ag etholaethau Senedd y DU ac mae hyn yn arwain at ethol 40 o Aelodau Cynulliad etholaethol.
Defnyddir yr ail bleidlais i ethol Aelodau Cynulliad rhanbarthol - caiff pedwar Aelod Cynulliad eu hethol o bob un o'r pum rhanbarth ledled Cymru, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru, a Dwyrain De Cymru.
Drwy ddefnyddio eu hail bleidlais, mae etholwyr yn pleidleisio i ymgeisydd annibynnol neu blaid wleidyddol mewn system 'rhestr gaeedig'. O ran pleidiau gwleidyddol, mae papurau pleidleisio yn dangos y rhestr o enwau ymgeiswyr a enwebwyd gan bob plaid wleidyddol a chaiff ymgeiswyr a etholir yn llwyddiannus eu gosod yn eu priod drefn o frig rhestr y blaid wleidyddol. Mae hyn yn arwain at ethol 20 o Aelodau Cynulliad Rhanbarthol.