Rhybudd Etholiad: Etholaeth Arfon

Etholiad Seneddol ar gyfer Etholaeth ARFON

 

1. Cynhelir etholiad am Aelod i wasanaethu yn y Senedd dros yr Etholaeth uchod.

2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfeydd Y Swyddog Canlyniadau Gweithredol, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH rhwng 10am a 4pm.

3. Rhaid danfon papurau enwebu at y Swyddog Canlyniadau Gweithredol. Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH ar unrhyw ddiwrnod gwaith ar ôl 8 Tachwedd 2019 rhwng 10am a 4pm ond ddim hwyrach na 4pm ar ddydd Iau, 14 Tachwedd 2019.

4. Rhaid talu blaendal o £500 am bob ymgeisydd naill ai mewn arian parod neu ddrafft banc (banciau'n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig yn unig). Dylid gwneud drafftiau banc yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd'.

5. Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd, cynhelir y bleidlais ar ddydd Iau, 12 Rhagfyr 2019.

6. Mae'n rhaid i geisiadau ychwanegu at gofrestr etholwyr ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Etholiadol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH erbyn dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019. Cliciwch yma i wneud cais ar-lein.

7. Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post newydd a phresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd  LL55 1SH  erbyn 5pm dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019

8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH erbyn 5 pm dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2019

9. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy ar sail cyflwr meddygol, salwch, anabledd neu os yw eu galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth yn golygu na ellir mynd i orsaf bleidleisio ar ôl 5 pm dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2019, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH erbyn 5pm dydd Iau, 12 Rhagfyr 2019.