Gweithio'n y maes gofal - digwyddiad recriwtio Gofal Caernarfon a'r cyffiniau

Dyddiad: 15/11/2022
Digwyddiad Caernarfon

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn recriwtio i geisio denu staff newydd ar gyfer timau Gofal Caernarfon a’r cyffiniau – gyda cyfleoedd ar gael yn y dref ei hun, a phentrefi cyfagos.

Fel rhan o ymgyrch cyffredinol yn y maes gofal, bydd y digwyddiad wyneb i wyneb yn cael ei gynnal yn Clwb y Sgowts, Maes Cadnant, Caernarfon ar ddydd Iau, 15 Ragfyr, o 12yp tan 5yp.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Gofal Oedolion Cyngor Gwynedd:

“Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, rydw i’n falch o glywed am y digwyddiad hwn sy’n agored i unrhyw un sy'n awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd yn y maes. Mae gweithio mewn swyddi o’r math yma, a gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl fregus yn eich cymuned eich hun, yn gallu rhoi boddhad mawr felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i alw heibio.

“Mae gan timoedd Oedolion, Plant ac Anableddau Dysgu y Cyngor gyfleoedd gwaith yn yr ardal ar hyn o bryd a bydd gwybodaeth hefyd ar gael am pa gefnogaeth sydd gan y Cyngor a’r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi unigolion i waith.”

Ar y diwrnod, bydd cyfle i glywed am fanteision gweithio i’r Cyngor, gwybodaeth am yr hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael i staff newydd, blas ar ofal a bywyd gweithio yn ein gwasanaethau gan ein staff parod.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwybod mwy - bydd y sesiwn ar agor o 12yp tan 5yp ar ddydd Iau, 15 Ragfyr yn Clwb y Sgowts, Maes Cadnant, Caernarfon, LL55 1BS.